Busnesau yn cefnogi deiseb Cymdeithas yr Iaith

Mae rhai o fusnesau Aberystwyth wedi datgan eu cefnogaeth i ddeiseb gan Gymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion sydd yn galw ar y Cyngor Sir i ddarparu mwy o wasanaethau Cymraeg yn y Sir a sicrhau tai a swyddi i bobl leol.

Wedi arwyddo'r ddeiseb a datgan eu cefnogaeth i alwadau Cymdeithas yr Iaith mae perchnogion Siop y Pethe, Siop Inc, Teithiau Cambria ac Y Llew Du yn Aberystwyth.

Meddai Hywel Griffiths Cadeirydd rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith:
"Rydym yn ddiolchgar iawn i'r busnesau hyn ma gefnogi'r ddeiseb; ac yn yn falch iawn o allu rhoi sylw i gwmniau sydd yn defnyddio ac yn arddel y Gymraeg wrth eu gwaith o ddydd i ddydd, ac yn gwneud hynny yn naturiol. Mae nhw'n gwneud yr union beth y dylai'r Cyngor Sir wneud.
" Un o alwadau'r ddeiseb yw i'r Cyngor Sir weinyddu yn Gymraeg er mwyn sicrhau gwasanaethau Cymraeg yn ogystal â sicrhau bod pobl yn gallu gweithio drwy'r Gymraeg yn yr ardal. Ar hyn o bryd mae nifer pryderus o uchel o'n pobl ifanc yn gadael y Sir er mwyn parhau â'u haddysg ac er mwyn cael swyddi. Drwy weinyddu drwy'r Gymraeg byddai'r Cyngor Sir yn cyfrannu'n fawr tuag at alluogi pobl i aros yn yr ardal i weithio."

Ychwanegodd Angharad Morgan o siop lyfrau Inc:
"Rydyn ni'n siaradwyr Cymraeg felly mae'n hollol naturiol i ni redeg y busnes drwy'r Gymraeg, fel hynny dylai fod yn y Cyngor Sir hefyd. Rydyn ni'n falch iawn o allu cynnig gwasanaeth Cymraeg i'n holl gwsmeriaid, a chynnig swyddi i bobl leol sydd yn rhoi cyfle iddyn nhw ddefnyddio'u Cymraeg yn y gwaith."

Dywedodd Aled Rees o gwmni teithio Teithiau Cambria:
" Mae pobl yn cael addysg Gymraeg felly mae'n bwysig fod swyddi Cymraeg ar gael iddyn nhw i ddilyn hynny. Mae'n beth da i ni allu cynnig swyddi i bobl ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd wrth weithio felly. Mae gan bawb ran i chwarae i sicrhau parhad y Gymraeg – ac mae hyn yn rhywbeth positif rydyn ni'n gallu ei wneud.”

Ychwanegodd Hywel Griffiths, Cadeirydd rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'r Cyngor Sir yn cydnabod fod cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg a bod pobl ifanc, wrth adael y sir, yn cael effaith ar niferoedd y siaradwyr Cymraeg, ond eto dydyn nhw ddim yn dangos unrhyw awydd nac arweiniad ar beth gallan nhw wneud amdano. Mae hynny'n destun pryder i ni. Er ein bod yn galw ar y Cyngor i wneud pethau penodol, gallwn ni i gyd wneud rhywbeth - mae'r busnesau yma yn dangos hynny. Mae angen i bawb sylweddoli natur yr argyfwng hwn a bod angen i ni gyd weithredu.”

Arwyddwch y ddeiseb yma: http://cymdeithas.org/deisebceredigion