Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Cabinet Cyngor Ceredigion am drin rhieni a thrigolion “fel pobl i’w trechu” yn hytrach na “phartneriaid” yn dilyn penderfyniad heddiw (dydd Mawrth, 3 Medi) i barhau gydag ymgynghoriad ar gau 4 o ysgolion gwledig Gymraeg y sir.
Bydd y mudiad yn mynd ati i gwyno’n ffurfiol bod y Cyngor wedi mynd yn erbyn Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru gan weithredu rhagdyb o blaid cau ysgolion.
Dywedodd Ffred Ffransis, o Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Fe welon ni heddiw y Cyngor yn trin y rhieni a thrigolion a oedd yn bresennol fel pobl i’w trechu yn lle eu gweld yn bartneriaid mewn adfywiad. Gyda chymaint o gymunedau’r sir ar y dibyn o ran y Gymraeg yn barod, allwn ni fforddio colli’r ysgolion hyn, sy’n ganolfannau cymunedol ac sy’n sicrhau bod y Gymraeg yn parhau fel iaith fyw?
“Mae Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru yn nodi’n glir bod yn rhaid ystyried pob opsiwn heblaw cau tra bod cynigion yn dal mewn cyfnod ffurfiannol, gyda rhagdybiaeth o blaid cynnal ysgolion gwledig. Ni all neb honni o ddifrif bod y broses hon wedi’i chyflawni’n ddigonol gan Gyngor Ceredigion, gan fod cam ffurfiannol polisi’r Cyngor – ddaeth i gasgliad mai cau yw’r opsiwn orau – wedi digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig.
“Fel rhybuddiwyd, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno cwyn nad yw’r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd, wedi torri Cod Trefniadaeth Ysgolion ac wedi gweithredu ar rhadyb o blaid cau ysgolion. Mynnodd un o swyddogion y Cyngor fod y Llywodraeth wedi cadarnhau eu bod yn cadw at y Cod, felly byddwn ni hefyd yn anfon cais rhyddid gwybodaeth am ohebiaeth rhwng y Cyngor a’r Llywodraeth ar y mater, i weld pwy sydd wedi camarwain y cyhoedd.”