Carden Felen - am y tro

radio_carmarthenshire.JPGCarden Felen - dyna oedd rhybudd Ofcom i Radio Carmarthenshire ddoe (Mercher 20 Hydref). Ar ôl misoedd o ymgyrchu gan Gymdeithas yr Iaith, mi gyhoeddwyd adroddiad Ofcom ar Radio Carmarthenshire. Enillwyd dadl Cymdeithas yr Iaith felly, a chydnabyddwyd nad yw Radio Carmarthenshire yn dal at eu hochor nhw o'r fargen ble mae'r iaith Gymraeg yn y cwestiwn. Ond mae'r ymgyrch ymhell o fod ar ben!

Mae Cymdeithas yr Iaith yn awr yn gofyn am gamau pellach gan Radio Carmarthenshire ac Ofcom.Dywedodd Hedd Gwynfor o Gymdeithas yr Iaith "Mae Radio Carmarthenshire a Keri Jones y Prif Weithredwr wedi dangos dirmyg llwyr tuag at y Gymraeg wrth beidio hyd yn oed darlledu y lleia posibl yn Gymraeg i ateb gofynion ei drwydded".Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar i'r drwydded gael ei dynnu oddi wrtho yn llwyr a'i roi i rywun sydd â gwir ddiddordeb mewn adlewyrchu, gwasanaethu a chynnal cymunedau Sir Gâr.Dywedodd Hedd Gwynfor o Gymdeithas yr Iaith 2rhaid dangos carden goch i Keri Jones am ddangos y fath ddirmyg tuag at bobl Sir Gâr a'u hiaith. Nid brwydro am rai oriau yn fwy o Gymraeg ar orsaf yr ydym, ond yn hytrach yn brwydro yn erbyn agwedd sarhaus a rhagfarn un dyn yn erbyn y Gymraeg. Dim ond carden goch all ddelio â hyn".Er nad yw Raido Carmarthenshire hyd yn oed yn cydymffurfio â thrwydded Ofcom, rhaid nodi nad yw'r drwydded ei hun yn ddigonol. Nid atodiad y dylai'r Gymraeg fod. Rhaid nodi'n glir a chadarn yn y drwydded fod rhaid i'r gwasanaeth Radio Lleol yn y sir hon, ble mae dros 50% o boblogaeth y Sir yn siaradwyr Cymraeg, fod â'i phrif iaith y Gymraeg.Dywedodd Hedd Gwynfor o Gymdeithas yr Iaith; "ni fodlonwn ar ychydig o oriau yn Gymraeg bob dydd i'n cadw'n dawel chwaith. Ar y foment mae'r drwydded yn ein trin fel y dylswn fod yn ddiolchgar am ychydig oriau yn Gymraeg. Ein hawl ni ydy cael gwasanaeth sydd oleiaf yn gwbl ddwyieithog."Bydd Cymdeithas yr Iaith felly yn cyflwyno ein Haddewid Perfformiad ein hunain i'r orsaf Ddydd Sadwrn mewn Rali tu allan i swyddfeydd Radio Carmarthenshire yn Arberth, fel rhywbeth i'r orsaf anelu ac ymdrechu tuag ato. Bydd y ddogfen hefyd yn cael ei chyflwyno i Ofcom iddyn nhw ystyried ailddrafftio termau'r drwydded i sicrhau gwir chwarae teg i'r Gymraeg ac i bobl Sir Gâr.Mi fydd y Rali yn cael ei chynnal Ddydd Sadwrn, i ddechrau am 12, tu allan i orsaf Radio Carmarthenshire / Pembrokeshire. Y siaradwyr fydd Adam Price, Mererid Hopwood, Cefin Campbell, Steffan Cravos a Emyr Llew. Yn perfformio bydd Garej Dolwen a Mattoidz.stori llawn oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd Llythr gan y Gymdeithas yn gorfodi Cyngor Tref Rhydaman i sefydlu polisi iaithCynghorau Tref Penbre a Phorth Tywyn yn gwrthod cefnogi Ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg!