Cefnogaeth gan bobl amlwg i ymgyrch ‘cenedlaethau’r dyfodol’ yng Nghymru

  • Pobl amlwg ym meysydd yr amgylchedd, busnes a chyfiawnder cymdeithasol yn cefnogi Bil Datblygu Cynaliadwy amgen
  • Mwy nag 20 o sefydliadau wedi ymrestru (rhestr lawn isod)
  • Bil i Gymru gyfan lle bydd pawb ar ei ennill – mae’r ymgyrchwyr yn dweud y byddai buddion bil cryf yn cynnwys swyddi gwyrdd, diet iachach a chefnogaeth i gymunedau Cymraeg

Mae pobl flaenllaw, gan gynnwys yr arweinydd busnes Syr Stuart Rose a’r ymgyrchydd amgylcheddol Jonathon Porritt, wedi cefnogi ymgyrch i wneud Cymru’n arloeswr byd ym maes datblygu cynaliadwy.

Heddiw (16 Gorffennaf 2013) mae cynghrair o fwy nag 20 o sefydliadau yn cyhoeddi ei chynnig amgen ar gyfer Bil Datblygu Cynaliadwy pwysig Llywodraeth Cymru.

>>LAWRLWYTHO 'LLUNIO EIN DYFODOL'<<

Dywed y grŵp y bydd y gyfraith newydd yn penderfynu sut y bydd Cymru’n datblygu dros ddegawdau i ddod. Yn ei ddogfen, Llunio ein Dyfodol, mae’n galw am i’r ddeddfwriaeth gynnwys dyletswydd ar y llywodraeth a chyrff cyhoeddus i sicrhau datblygu cynaliadwy – gan ddiwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â’r bobl sy’n fyw heddiw.

Mae hefyd yn nodi diffiniad clir o ddatblygu cynaliadwy ac yn cynnig y byddai Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy dros Gymru’n hyrwyddo a hwyluso datblygu cynaliadwy, yn ogystal ag ymdrin â chwynion ynglŷn â’r ffordd mae awdurdodau cyhoeddus yn cyflawni eu dyletswyddau.

Mae cyhoeddi’r ddogfen heddiw’n dilyn pryder gan ymgyrchwyr bod cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyfraith hyd yma wedi bod yn rhy wan i wireddu’r addewidion beiddgar a wnaethpwyd gan weinidogion. Mae’r sefydliadau’n gobeithio, gyda gweinidog newydd, Jeff Cuthbert, yn arwain y gwaith o ddatblygu’r gyfraith, y bydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi eu cynllun amgen.

Gan siarad ar ran y sefydliadau, dywedodd Haf Elgar:

“Mae’r Bil Datblygu Cynaliadwy’n gyfle gwych i Gymru osod esiampl i’r byd trwy sicrhau bod y llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn diwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â’r bobl sy’n fyw heddiw. Mae’n galonogol gweld amrywiaeth mor fawr o sefydliadau’n cefnogi’r gyfraith amgen rydyn ni wedi’i chyhoeddi heddiw.”

“Rydyn ni’n cyflwyno cynllun ar gyfer cyfraith gref a fyddai’n sicrhau buddion gwirioneddol i bobl ac i’r blaned. Drwy osod dyletswydd glir ar awdurdodau cyhoeddus i gyflawni datblygu cynaliadwy, byddai gweinidogion yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gweithio mewn ffordd gydgysylltiedig ar gyfer y tymor hir, fel creu swyddi mewn ffyrdd sy’n brwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, gwneud penderfyniadau cynllunio sy’n cefnogi cymunedau Cymraeg, a sicrhau bod bwyd lleol, iach ar gael i bawb.”

“Allwn ni ddim fforddio rhoi baich canlyniadau penderfyniadau anghynaliadwy ar genedlaethau’r dyfodol. Os yw’r bil amgen hwn yn cael ei roi ar waith, bydd yn sicrhau ansawdd bywyd gwell i bobl yng Nghymru a’n bod ni’n chwarae ein rhan, fel dinasyddion byd-eang, i helpu i sicrhau bywyd boddhaol i bobl sy’n byw mewn tlodi o gwmpas y byd.”

DYFYNIADAU O 'LLUNIO EIN DYFODOL'

“Mae’r Bil Datblygu Cynaliadwy yn cynnig y gobaith cyffrous y bydd Cymru’n arwain ar greu economi gynaliadwy sy’n garbon isel, yn effeithlon wrth ddefnyddio adnoddau ac yn gyfrifol yn gymdeithasol. Rwy’n cefnogi’r ymgyrch hon am gyfraith gref sy’n helpu i sicrhau economi gynaliadwy. Os yw Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cynnwys y ddeddf hon yn gywir, bydd yn anfon neges rymus a chadarnhaol i fyd busnes fod Cymru o ddifrif ynghylch yr agenda hon.” 

Syr Stuart Rose – Arweinydd busnes 

“Mae Sefydliad Bevan eisiau gweld Bil Datblygu Cynaliadwy sy’n hybu cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb ar lawr gwlad yn ogystal ag mewn egwyddor. Mae hyn yn golygu rhoi arweiniad cryf a chymryd camau cadarnhaol i wneud Cymru’n genedl deg a chyfiawn. Rydym yn cydnabod yr angen i fynd i’r afael â chyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb o fewn terfynau adnoddau ein planed ac felly’r angen i chwilio am atebion i Gymru sy’n integreiddio pob agwedd ar ddatblygu cynaliadwy.”

Victoria Winckler – Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan

“Mae’r Bil Datblygu Cynaliadwy’n cynnig gobaith i bawb yn y Deyrnas Unedig sy’n malio am sicrhau planed iach i genedlaethau’r dyfodol. O’i wneud yn iawn, bydd yn cadarnhau safle Cymru fel arweinydd byd o ran parchu terfynau amgylcheddol – gan helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a diogelu byd natur. Rwy’n llwyr gefnogi’r ymgyrch am i Lywodraeth Cymru basio bil cryf sydd wir yn gwireddu ei haddewidion beiddgar.”

Jonathon Porritt – Cyn-gadeirydd Comisiwn Datblygu Cynaliadwy’r Deyrnas Unedig

Mae’r sefydliadau sy’n cefnogi’r bil amgen a gynigir yn cynnwys:

• Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru
• CAFOD
• Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
• Cyfeillion y Ddaear Cymru
• Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
• Cymorth Cristnogol Cymru
• Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru 
• Cynnal Cymru – Sustain Wales
• Disability in Wales and Africa
• Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched – Cymru
• Hub Datblygu Rhyngwladol Cymru
• Life for African Mothers
• Love Zimbabwe
• Masnach Deg Cymru
• Oxfam Cymru
• RSPB Cymru
• Sefydliad Bevan
• Tearfund
• Tools for Self Reliance Cymru 
• WWF Cymru
• Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod
• Ymddiriedolaethau Natur Cymru