Cefnogaeth i addysg Gymraeg i bob plentyn erbyn 2050

Rydyn ni'n croesawu cefnogaeth Undod, mudiad sosialaidd, gweriniaethol sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru, i'r alwad ar Lywodraeth Cymru i osod nod bod pob plentyn yng Nghymru yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

Pasiwyd cynnig i gefnogi galwad y Gymdeithas yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undod ddydd Sadwrn 19/11/22.

Dywedodd Catrin Dafydd ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith,
"Rydyn ni'n falch iawn bod llais mudiad arall wedi ymuno yn yr alwad am addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn. Wrth baratoi'r Ddeddf Addysg Gymraeg, mae cyfle unwaith mewn cenhedlaeth gan Lywodraeth Cymru i roi diwedd ar allgau 80% o'n pobl ifanc o'r cyfle i ddysgu Cymraeg yn rhugl.
"Mae'r dystiolaeth yn glir mai dim ond addysg cyfrwng Cymraeg sy'n creu siaradwyr hyderus, felly galwn ar y Llywodraeth i osod pob ysgol yng Nghymru ar daith at ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Gyda'r ewyllys a'r arweiniad gwleidyddol, mae modd sicrhau y bydd pob plentyn yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050. Does dim cyfiawnhad dros adael neb ar ôl - mae'n fater o gyfiawnder cymdeithasol."

Geiriad y cynnig a basiwyd gan Gyfarfod Cyffredinol Undod:
i) Mae Undod yn cefnogi galwad Cymdeithas yr iaith i Lywodraeth Cymru osod nod statudol y dylai pob plentyn yng Nghymru dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.
ii) Yn ogystal, bydd Undod yn cefnogi deiseb Wish I Spoke Welsh i Bwyllgor Deisebau Senedd Cymru sy'n galw am osod uchelgais ac amserlen glir i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn.