Cerdded dros ddyfodol ysgolion pentref

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo Cyngor Sir Gâr o sgorio gôl ryfeddol yn ei rwyd ei hun wrth hyrwyddo wythnos "cerdded i'r ysgol" ar yr union adeg y mae'n ceisio cau degau o ysgolion pentref.

Dywedodd Trefnydd Dyfed o'r Gymdeithas, Angharad Clwyd,"Mae'r Cyngor wedi sgori gôl ryfeddol yn ei rwyd ei hun drwy hyrwyddo'r wythnos 'cerdded i'r ysgol' yn ei cylch lythyr cymunedol. Maent yn gofyn i rieni a phlant i gerdded i'r ysgol yr wythnos hon ac eto'n benderfynol o gau'r holl ysgolion pentrefol sydd o fewn pellter cerdded.""Eu targed diweddaraf yw Ysgol Mynyddcerrig. A ydynt o ddifri'n disgwyl i'r plant bach gerdded y 3 milltir ar hyd heolydd cul a troellog i ysgol Ardal yn Pontyberem ac yna'n ôl lan y mynydd ar ddiwedd y dydd?""Dyma enghraifft pellach eto o sut mae'r rhaglen cau llwyth o ysgolion yn groes i bolisiau cyffredinol corfforaethol y Cyngor ar drafnidiaeth, hyrwyddo bywyd iach gwarchod cymunedau Cymraeg eu hiaith."Er mwyn dangos yr anhawsterau a ddaw o gau ysgolion pentref, bu rhieni ysgolion Bancffosfelen, Carwe, Maesybont, Mynyddcerrig, Mynyddygarreg, a Ponthenri yn cerdded ar y ffyrdd heddiw (sef diwrnod cyntaf yr wythnos 'cerdded i'r ysgol').Cafodd pentrefwyr a chefnogwyr Ysgol Mynyddygarreg eu harwain ar hyd y 2 filltir i Gydweli gan Ray Gravell - y cyn-chwaraewr Rygbi Rhyngwladol - sy'n cefnogi'r frwydr dros y ddyfodol ei ysgol bentref.Taith brotest yn erbyn cau ysgolion - BBC Cymru'r Byd - 22 MaiProtest over school closure plan - BBC Wales - 22 MaiRugby legend strides out in school campaign - Western Mail - 22 Mai01cerdded-ysgolion-mai06.JPG02cerdded-ysgolion-mai06.JPG03cerdded-ysgolion-mai06.JPG04cerdded-ysgolion-mai06.JPG