Galw ar Gyngor Ceredigion i ddefnyddio pwerau ail gartrefi newydd 'yn llawn'

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at Arweinydd Cyngor Ceredigion gan alw arno i  ‘wneud defnydd llawn’ o’i bwerau newydd i fynd i’r afael â’r argyfwng tai. 

Mae’n dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fis diwetha y bydd gan awdurdodau lleol ragor o rymoedd i fynd i’r afael ag ail gartrefi. Mae’r pecyn o fesurau yn cynnwys y canlynol:

  • Galluogi awdurdodau lleol i osod cap ar nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned drwy greu tri dosbarth defnydd cynllunio newydd – prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.
  • Y grym i amrywio’r dreth trafodiadau tir yn lleol mewn ardaloedd â niferoedd mawr o ail gartrefi

Roedd y Llywodraeth eisoes wedi cyhoeddi y bydd gan gynghorau’r grym i godi'r dreth cyngor ar ail gartrefi i 300% o’r flwyddyn nesaf. 

Ar hyn o bryd, dim ond codi 25% yn fwy o dreth cyngor mae Cyngor Ceredigion ar ail gartrefi, sy’n llai na’r 100% a ganiateir gan y gyfraith yng Nghymru ers 2015.   

Dywedodd Tamsin Davies ar ran Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’n newyddion da bod y Llywodraeth wedi cyflwyno’r pecyn o fesurau hyn. Nawr mae angen i Gyngor Ceredigion wneud defnydd llawn o’r pwerau newydd hyn. Rydyn ni’n wynebu argyfwng tai - ac mae cynyddu’r dreth cyngor uwch i’r lefel uchaf posibl, gosod cap ar y canran o ail gartrefi mewn unrhyw gymuned, a mynnu bod angen caniatâd cynllunio i droi tŷ yn dŷ haf yn fesurau mae angen i Geredigion weithredu cyn gynted ag y gallan nhw.  

“Bydd gofyn am ganiatâd cynllunio i droi tŷ neu fflat preswyl yn ail gartref neu’n AirBnB yn gwneud gwahaniaeth pwysig iawn, o ystyried faint o denantiaid sy’n cael eu troi allan o’u cartrefi fel bod modd i landlordiaid eu troi yn llety gwyliau.”

Ychwanegodd:

“Mae’r rhain yn bwerau pwysig er mwyn sicrhau nad oes rhagor o gymunedau twristaidd yn colli eu poblogaeth barhaol. Hyd yma dydy cyngor Ceredigion ddim wedi defnyddio’r pwerau yn llawn i fynd i’r afael ag effaith ail dai ond mae’n hanfodol bod Cyngor Ceredigion yn arwain yn yr achos yma.
"Er hynny mae’r problemau systemig yn y farchnad dai yn ehangach o lawer na mater ail gartrefi a llety gwyliau yn unig. Mae'r broblem yr un mor ddifrifol yn y sector rhentu hefyd, mae rhenti afresymol yn amddifadu pobl o gartrefi ar rent yn eu cymunedau. Rhaid felly dal ar y cyfle i sicrhau fod mynd i'r afael â'r broblem yn iawn gyda Deddf Eiddo gynhwysfawr.
“Felly byddwn ni’n defnyddio rali ar faes yr Eisteddfod i alw hefyd ar Gyngor Ceredigion i bwyso ar y Llywodraeth am Deddf Eiddo.”

 

Mae mwy o fanylion am y rali ar faes Eisteddfod Tregaron i'w gweld yma

 

 

 

 

Y llythyr llawn at Brian Davies, arweinydd Cyngor Ceredigion

Annwyl Bryan Davies,

Llongyfarchiadau ar gael eich ethol fel Arweinydd y sir.

Yn sgil penderfyniad Llywodraeth Cymru fel rhan o’i gytundeb gyda Phlaid Cymru i gymryd rhagor o fesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, ysgrifennwn atoch er mwyn gofyn i chi wneud defnydd llawn o’r pwerau newydd hyn.

Byddwch yn ymwybodol nad yw’r Cyngor wedi gwneud defnydd llawn o’r grym sydd ganddo ers 2015 i godi treth gyngor uwch ar ail gartrefi i 100%. Bydd gennych chi’r grym o Ebrill y flwyddyn nesaf i’w godi i 300%. Gofynnwn am sicrwydd y byddwch chi’n codi’r dreth i’r lefel uchaf bosibl.

Yn ogystal, rydym gofyn i chi roi sicrwydd i ni y byddwch chi’n defnyddio’r pwerau newydd i:

  • osod cap ar nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned yn y sir; 

  • mynnu bod angen caniatâd cynllunio i newid defnydd eiddo o brif gartref i ail gartref neu lety gwyliau; a

  • codi’r dreth trafodiadau tir ar ail gartrefi

Mae'r rhain yn bwerau pwysig er mwyn sicrhau bod cymunedau Ceredigion yn hyfyw a chynaliadwy, ac er mwyn atal mwy o gymunedau twristaidd rhag colli eu poblogaeth barhaol. Er lles ein pobl ifanc, ein cymunedau a’r Gymraeg, mae’n hanfodol bod Cyngor Ceredigion yn arwain y ffordd yn ei ddefnydd o’r pwerau newydd hyn.

Er hynny mae problemau'r farchnad dai yn ehangach o lawer na mater ail gartrefi a llety gwyliau yn unig wrth gwrs. Mae pobl ar draws y sir yn methu rhentu neu brynu cartref am bod prisiau'n rhy uchel o'u cymharu â chyflogau.

Rhaid dal ar y cyfle i sicrhau bod mynd i'r afael â'r broblem yn iawn gyda Deddf Eiddo gynhwysfawr. Gofynnwn felly i chi fel cyngor i bwyso ar y Llywodraeth am Deddf Eiddo gyflawn hefyd.

Diolch yn fawr am ystyried ein gohebiaeth.

Yr eiddoch yn gywir,

Jeff Smith
Cadeirydd, Rhanbarth Ceredigion, Cymdeithas yr Iaith