Coleg Ffederal Cymraeg ar daith - Rhagflas o'r hyn allai fod! Medi 6 - 11 2004

Protest Coleg Ffederal Am un wythnos, fe ddaw Coleg Ffederal Cymraeg yn realiti wrth i Gymdeithas yr Iaith drefnu’r wythnos nesaf chwe chwrs mewn lleoliadau trwy Gymru’n amrywio o ddarlithfa coleg i ysgol bentre, o festri capel i glwb cymdeithasol ac o theatr i daith gymunedol.

Wrth gyhoeddi’r cynllun, dywed Ffred Ffransis (llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg),"Dengys yr amrywiaeth hon fel y gallai Coleg aml-safle Cymraeg weithio’n allblyg i gryfhau’n cymunedau lleol trwy drefnu cyrsiau perthnasol i’r cymunedau gan gynnig addysg ymarferol. Nid oes raid cael cyfieithiad syml o addysg academaiddd Seisnigaidd. Dyma ein hateb ar gyfer Prifysgol Cymru – sydd wedi gweithredu’n erbyn buddiannau cymunedau Cymraeg ddwywaith drosodd – trwy gynnig addysg bron yn gyfangwbl Saesneg a thrwy ddiwreiddio Cymry ifainc o’u cymunedau gan wahanu dysgu oddiwrth weithredu yn ein cymunedau."Ym mhob sesiwn, fe fydd fforwm agored i drafod yr ymgyrch dros Goleg Ffederal Cymraeg ac wedyn cwrs Cymraeg perthnasol i anghenion y gymuned leol. Sylw Ffred Ffransis oedd –“Am wythnos, fe wireddir y freuddwyd o Goleg Ffederal Cymraeg sy’n wir wasanaethu ein pobl ac yn cryfhau ein cymunedau Cymraeg.”.Pwyswch yma i weld rhaglen y Coleg Ffederal Cymraeg ar daith.Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Ffred Ffransis Ffôn: 01559-384378Ebost: ffred@cymdeithas.com