Llywodraeth Cymru wedi Colli Cyfle i Ddiogelu S4C

Wedi i Carwyn Jones ddweud y byddai Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyfrifoldeb dros S4C petai'r Adran Diwylliant Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan yn darparu cyllid ar gyfer y sianel dywedodd Carl Morris, cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith:
"Mae Llywodraeth San Steffan wedi dangos ers blynyddoedd nad oes ganddo ddiddordeb yn S4C. Yn 2010 torrwyd cyllid S4C yn sylweddol a bellach mae ei chyllid yn dod trwy'r BBC; mae'r sianel hefyd yn rhannu nifer o adnoddau gyda'r BBC. Dydy hi fawr o syndod bod San Steffan eisiau golchi eu dwylo o'r sianel.
"Ond collodd Llywodraeth Cymru gyfle, ac mae S4C wedi derbyn toriadau pellach yn y cyfamser. Er nad oedd cyllid yn cael ei gynnig gyda'r sianel byddai ffyrdd eraill o'i hariannu, fel codi treth ar wasanaethau rhyngrwyd a chwmnïau telathrebu neu godi ardoll ar gwmnïau ffrydio. Mae darparwyr rhyngrwyd a chwmnïau telathrebu yn enwedig yn parhau i weld cynnydd sylweddol yn eu helw, a byddai modd defnyddio'r arian sy'n cael ei godi i ehangu darlledu Cymraeg.
"Mae mawr angen mwy o ddeunydd Cymraeg ar-lein ac iddo fod yn fwy gweladwy ac rydyn ni wedi argymell creu Menter Ddigidol Gymraeg i wneud y gwaith yma. Byddai'r arian o drethi neu ardollau yn gallu cael eu defnyddio ar gyfer hynny hefyd.
Byddai angen rhoi pwerau trethu i Gymru hefyd er mwyn gwneud wrth gwrs. Ond petai'r Llywodraeth o ddifri eisiau cyfrifoldeb dros S4C a darlledu Cymraeg bydden nhw wedi dod o hyd i ffordd."

Gwnaeth Carwyn Jones ei sylwadau ar raglen Hawl i Holi ar Radio Cymru nos Iau Tachwedd 3, mae'r clip i'w glywed yma.