Condemnio Polisi 'Carchar Agored' Eisteddfod Eryri 2005!

Pwyswch yma i fynd i dudalen gigs Steddfod 2005

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio polisi’r Eisteddfod Genedlaethol o godi £10 y noson ar i bobl ifanc aros ym maes pebyll yr Eisteddfod eleni, gan gymharu syniad y trefnwyr o gyfuno’r maes pebyll a Maes-B i sefydlu ‘carchar agored’ gyda’r bwriad o gaethiwo Eisteddfodwyr ifanc ar dir yr Eisteddfod.Bwriad yr Eisteddod yw gorfodi unrhywun sydd am aros yn y maes pebyll i dalu hefyd am fynediad i Maes-B; y lleoliad bar a gigs hwyr sydd wedi gwneud colledion ariannol mawr i’r Eisteddfod dros y blynyddoedd diwethaf.Er fod Maes-B a’r maes pebyll wedi cyd-fyw ar yr un safle ers bron i ddegawd, yn y gorffenol mae pris mynediad ar wahan wedi bod i’r ddau le gyda Eisteddfodwyr ifanc yn gallu gwersylla heb gael eu gorfodi i dalu pris mynediad i far Maes-B hefyd.Pris gwersylla y llynedd oedd £2.50 y noson. Golyga’r polisi newydd y byddai’n rhaid i bob gwersyllwr, beth bynnag fo’u oed a’u diddordebau, dalu bedair gwaith yn fwy eleni er mwyn sybsideiddio nosweithiau drudfawr Maes-B. Mae hon yn weithred argyfwng gan yr Eisteddfod yn wyneb y ffaith fod cymaint o bobl ifainc wedi bod yn dewis dod at gigs Cymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos y Steddfod dros y blynyddoedd diwethaf.Cred Steffan Cravos, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, fod y polisi hwn yn ymgais ar ran y trefnwyr i gaethiwo’r Eisteddfodwyr ifanc mewn ghetto a’u cosbi’n ariannol am fynychu digwyddiadau gyda’r nos heblaw am rai swyddogol yr Eisteddfod. Meddai:"Rhan ganolog o hwyl a thraddodiad yr Eisteddfod yw fod Esiteddfodwyr o bob oed yn dod i adnabod ardal newydd o Gymru bob blwyddyn, a fod ardal wahanol o Gymru yn elwa yn economaidd a chymdeithasol o bresenoldeb yr Eisteddfod gyda phob math o digwyddiadau yn cael eu trefnu ledled yr ardal.""Eleni, mae’r trefnwyr am gaethiwo Eisteddfodwyr ifanc yn y maes pebyll a’u gorfodi i dalu crocbris i fynychu digwyddiadau na fydd yn apelio at nifer fawr ohonynt. Mae fel gorfodi pawb sydd am aros yn y maes carafannau i dalu am docyn i gyngherddau nos y Pawfiliwn hefyd, boed hwy’n hoffi be sydd ymlaen yno neu beidio."Yn ôl Ioan Thomas Cadeirydd Pwyllgor Apêl Caernarfon a Reolwr Gyfarwyddwr o’r Cofi Roc, mae’r polisi yn newyddion drwg i’r bobl leol a fu’n codi arian tuag at gynnal yr Eisteddfod:"Mae tref Caernarfon ar ben ei hun wedi casglu dros £60,000 tuag at yr Eisteddfod eleni a’r gobaith mawr oedd byddai busnesau’r dref yn elwa o bresenoldeb yr Eisteddfod. Mae unrhyw ymgais i gadw Eisteddfodwyr rhag cefnogi busnesau lleol yma, a chymysgu â’r gymuned leol felly yn siom enbyd i’r trigolion a busnesau lleol a fuodd yn gweithio mor galed i sicrhau fod yr Eisteddfod yn dod i’r ardal a sydd yn bwriadu trefnu digwyddiadau i gyd-fynd a’r ŵyl."Mae Steffan Cravos yn ofni hefyd y gallai’r polisi hwn alltudio llawer o’r genhedlaeth newydd o Eisteddfodwyr gan eu troi i fwrdd o’r Eisteddfod yn gyfan gwbl. Meddai:"Mae rhywbeth yn nawddoglyd iawn yn y ffordd mae trefnwyr yr Eisteddfod yn categoreiddio pobl ifanc ac yn ceisio pendefynnu drostynt beth maent am ei wneud yn ystod yr wythnos. Mae gan Gymry ifanc heddiw ddiddordebau amrywiol iawn a nid pawb sydd eisiau meddwi mewn ysgubor fawr yn ganol cae.""Gyda’r ardal yn un ble mae llawer o bobl ifanc Cymraeg eu hiaith yn byw beth bynnag, dwi’n meddwl bydd llawer sydd yn teithio i’r Eisteddfod ddod i’r casgliad fod cysgu ar soffa ym Mangor Ucha neu’r Felinheli yn well na thalu trwy’u trwynau i fynd i garchar agored yr Eisteddfod.""Mae Cymdeithas yr Iaith yn dal yn ffyddlon i ddelfryd wreiddiol yr Eisteddfod o gefnogi a chryfhau cymunedau lleol wrth symud o gwmpas Cymru. Byddwn ni fel ein harfer yn cydweithio gyda mentrau lleol i gynnal ein gigs eleni mewn canolfannau ym Mangor a Chaernarfon."Stori oddi ar wefan y Western MailStori oddi ar wefan y Daily Post