Corff Cyfathrebu newydd Cymru - arbenigwyr i ddod ynghyd i’w drafod

Bydd arbenigwyr ym maes darlledu yn dod ynghyd yng Nghaernarfon ddiwedd y mis i drafod Corff Cyfathrebu newydd Cymru.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd yn sefydlu’r corff newydd er mwyn braenaru’r tir ar gyfer pwerau datganoledig yn y maes darlledu a chyfathrebu. 

Ymysg ei gyfrifoldebau fydd: llunio model amgen ar gyfer S4C er mwyn cryfhau ei darpariaeth a’i hannibyniaeth; ail-ystyried rôl Ofcom; ac edrych ar ffyrdd eraill o ymyrryd er mwyn cryfhau craffu a democratiaeth Cymru. 

Daeth y penderfyniad i greu Corff Cyfathrebu i Gymru yn sgil argymhellion adroddiad gan banel a arweinwyr gan y ddarlledwraig Mel Dole a’r academydd yr Athro Elin Haf Jones. 

Bydd swyddogaethau’r awdurdod newydd yn cael eu trafod yn y digwyddiad a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith gan siaradwyr megis yr Athro Tom O’Malley, Cefin Campbell AoS a Llion Iwan o’r cwmni teledu Cwmni Da.

Yn siarad cyn y cyfarfod o arbenigwyr, dywedodd Mirain Owen o Gymdeithas yr Iaith:

“Roedd penderfyniad Llywodraeth Cymru rai misoedd yn ôl i sefydlu Corff Cyfathrebu i Gymru yn ddatblygiad cadarnhaol iawn. Mi all, o’i weithredu’n effeithiol, gyfrannu’n sylweddol at gryfhau democratiaeth, diwylliannau ac iaith Cymru. Yn wir, mae ei greu e’n gam hanesyddol sy’n gosod Cymru ar y ffordd tuag at gael rheolaeth dros ein trefn ddarlledu ein hunain. 

“Mae’n amserol i ni, fel pobl sydd â diddordeb yn y maes, i ddod ynghyd i drafod agenda’r corff newydd a’r ffordd y gall weithredu fwyaf effeithiol. Bydd y digwyddiad yma yn rhan o’n hymdrechion i gydweithio’n gadarnhaol gyda’r Llywodraeth er mwyn cael y maen i’r wal.

“Wrth i ni fynd i’r afael â’r heriau sylfaenol sy’n wynebu’r sector yng Nghymru, gan gynnwys darpariaeth darlledu Cymraeg, mae’n hanfodol bod penderfyniadau ar ran pobl Cymru yn cael eu gwneud yma yng Nghymru.”

Cynhelir y digwyddiad yn y Galeri yng Nghaernarfon ar ddydd Llun 29ain Gorffennaf am 4 o’r gloch. Gellir cofrestru trwy fynd i: https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSecyE9H9xobA3wVNsEErht7lVnRA59IakmmyJkQzgE3PpfS5Q/viewform?usp=sf_link