Cowbois ar Daith

Taith TafodMae Tîm Adloniant Cymdeithas yr Iaith yn falch iawn o gyhoeddi mai Cowbois Rhos Botwnnog fydd y prif fand ar ail Daith Tafod sydd i’w chynnal ym mis Ebrill. Bydd Yucatan a Mr Huw hefyd yn ymuno â nhw wrth iddynt ymweld â phob cwr o Gymru.

Hon fydd yr ail daith o’r fath i’w threfnu gan y Gymdeithas yn dilyn llwyddiant y gyntaf yn Nhachwedd 2006. Y bwriad yw cynnal gigs o safon ymhob rhan o’r wlad a chynyddu poblogrwydd y bandiau sy’n teithio yn y rhannau hynny.Llun_Cowbois3.jpgYn ogystal â pherfformio’n fyw yng ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru’n ddiweddar, enillodd Cowbois Rhos Botwnnog y wobr ‘Grŵp a Ddaeth i Amlygrwydd’ ar y noson, yn ogystal â chael eu henwebu yng nghategori ‘Sesiwn C2 y Flwyddyn’. Mae eu harddull unigryw o gerddoriaeth roc-gwledig wedi eu gwneud yn boblogaidd iawn gyda dilynwyr cerddoriaeth Gymraeg a dywedodd cydlynydd Taith Tafod, Owain Schiavone, “maen nhw eisoes yn un o fandiau newydd mwyaf poblogaidd Cymru felly rydym ni am geisio adeiladu ar hyn a’u helpu i gyrraedd y lefel nesaf. Mae ganddyn nhw hefyd albwm ar y gweill felly gobeithio bydd y daith yn gymorth i hyrwyddo hwnnw”.Mae Yucatan hefyd yn gobeithio rhyddhau albwm cyntaf y band ym mis Mai wedi i draciau promo dderbyn tipyn o airplay gan swyno gwrandawyr. Dywedodd Schiavone, “mae cerddoriaeth Yucatan yn wirioneddol hyfryd ac mae’r daith yn rhoi cyfle iddynt berfformio’n fwy ar lwyfan. Rydyn ni hefyd yn falch iawn o gael Mr Huw ar y daith hefyd gan ei fod ei gerddoriaeth mor glyfar a hwyliog – mae pawb yn licio Mr Huw.”Mae dau leoliad wedi eu hychwanegu at yr ail daith a bydd yn ymweld â Dinbych, Porthmadog, Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd dros gyfnod o fis. Mae’r daith yn dechrau yng Nghlwb Rygbi Dinbych ar 12fed Ebrill ac yn dod i ben yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 4ydd o Fai.· Pwyswch yma i wrando ar ganeuon Cowbois Rhos Botwnnog, oddi ar wefan C2, BBC Radio Cymru neu ewch i’w safle MySpace.· Am ragor o wybodaeth ynglŷn a Yucatan ac i glywed eu cerddoriaeth, ewch i’w safle MySpace.· Am ragor o wybodaeth ynglŷn a Mr Huw ac i glywed ei gerddoriaeth, ewch i’w safle MySpace.Taith Tafod 2 - Clwb Rygbi DinbychNos Iau, 12fed Ebrill 2007Cowbois Rhos BotwnnogYucatanMr HuwDJ Fuzzy FeltTocynnau: £4 o flaen llaw neu £5 ar y noson. Am fwy o fanylion ffoniwch Dewi ar 01286 662 908 neu gogledd@cymdeithas.orgTaith Tafod 2 - Clwb Chwaraeon PorthmadogNos Wener, 13eg Ebrill 2007Cowbois Rhos BotwnnogYucatanMr HuwDJ Fuzzy FeltTocynnau: £4 o flaen llaw neu £5 ar y noson. Am fwy o fanylion ffoniwch Dewi ar 01286 662 908 neu gogledd@cymdeithas.orgTaith Tafod 2 - Clwb y Cwins, CaerfyrddinNos Sadwrn, 14eg Ebrill 2007Cowbois Rhos BotwnnogSupergeneCodaMr HuwTocynnau: £4 o flaen llaw neu £5 ar y noson. Am fwy o fanylion ffoniwch Gwenno ar 07815709885 neu gwenno@cymdeithas.orgTaith Tafod 2 - Neuadd Hendre, ger BangorNos Wener 20fed Ebrill 2007Cowbois Rhos BotwnnogYucatanMr HuwDJ Fuzzy FeltTocynnau: £4 o flaen llaw neu £5 ar y noson. Am fwy o fanylion ffoniwch Dewi ar 01286 662908 neu gogledd@cymdeithas.orgTaith Tafod 2 - Clwb Pel-droed AberystwythNos Wener 27ain Ebrill 2007Cowbois Rhos BotwnnogYucatanJen JeniroTocynnau: £4 o flaen llaw neu £5 ar y noson. Am fwy o fanylion e-bostiwch owain@cymdeithas.com.Taith Tafod 2 - Clwb Ifor Bach, CaerdyddNos Wener 4ydd Mai 2007Cowbois Rhos BotwnnogYucatanMr HuwTocynnau: £4 o flaen llaw neu £5 ar y noson