Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu cynlluniau i godi treth twristiaeth ar ymwelwyr yng Nghymru.
Bydd deddfwriaeth sy'n caniatáu i awdurdodau lleol gyflwyno treth twristiaeth yn cael ei chyflwyno i'r Senedd o fewn y ddwy flynedd nesaf.
Cymdeithas yr Iaith oedd y mudiad cyntaf i alw am dreth dwristiaeth yng Nghymru bron i hanner can mlynedd yn ôl. Petai'r dreth wedi cael ei rhoi mewn lle bryd hynny byddai wedi codi miliynau lawer ar gyfer ein cymunedau erbyn hyn.
Yn hytrach, mae’n cymunedau wedi dirywio dros y blynyddoedd, gan wynebu diweithdra a cholli gwasanaethau.
Bydd y Gymdeithas yn annog Awdurdodau Lleol i ddefnyddio'r arian a ddaw o'r dreth i fuddsoddi mewn seilwaith. Ond yn hytrach na rhoi'r arian tuag at wella seilwaith i dwristiaeth dylai'r arian gael ei flaenoriaethu ar gyfer yr economi leol a buddsoddi mewn tai ar gyfer pobl leol.
Meddai Robat Idris, Cadeirydd y Gymdeithas:
“Nid yw treth ar dwristiaeth yn beth newydd mewn rhannau eraill o’r byd, ac mae tystiolaeth nad yw treth o’r fath yn niweidio’r diwydiant. Rhaid i dwristiaeth fod yn gynaliadwy ac yn addas i’n cymunedau, yn lle eu gwthio o’r neilltu a’i difrodi. O ddefnyddio’r dreth yn gywir, gall fod yn rhan o’r ateb i atgyfnerthu ein cymunedau yn yr ardaloedd twristaidd. Gofynnwn i awdurdodau lleol ddechrau cynllunio yn syth ar sut y byddant yn gwario'r arian.”