Croesawu cynnig am ail gartrefi

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi dilyn ôl troed awdurdodau lleol eraill heddiw (Dydd Mercher 13/01) wrth dderbyn cynnig yn galw ar y Llywodraeth am ragor o rymoedd i reoli ail gartrefi.

Derbyniwyd y cynnig sy'n gofyn i'r Llywodraeth ddeddfu i sicrhau bod rhaid cael caniatâd cynllunio cyn newid tŷ yn ail-gartref neu lety gwyliau ac atal perchnogion rhag cofrestru ail dŷ yn fusnesau er mwyn osgoi trethi; ac i alluogi awdurdodau lleol i osod trothwy ar y nifer o ail gartrefi ym mhob ward.

Dywedodd Bethan Williams ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr:
"Rydyn ni'n croesawu hyn gan y Cyngor, mae'r neges i'r Llywodraeth yn glir o sawl ardal erbyn hyn. Mae disgwyl i Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wneud cyhoeddiad am argyfwng ail gartrefi yn ystod y mis yma. Mae'r mater yn nwylo'r Llywodraeth, felly pryd allwn ni ddisgwyl cyhoeddiad?"

Y cynnig a dderbyniwyd gan y Cyngor:
“Noder bod 1,118 o gartrefi yn Sir Gâr yn cael eu diffinio fel ail gartrefi. Y diffiniad o ail gartref yw eiddo nad yw’n unig neu brif annedd i’r perchennog.

Noder yn ychwanegol bod cynnydd diweddar wedi bod ar draws Cymru yn y nifer o dai sy’n cael eu prynu fel ail gartrefi neu dai gwyliau i’w rhentu neu osod fel AirBnB (gan gynnwys Sir Gâr). Mewn rhai ardaloedd mae cymaint â 40% o’r stoc tai yn ail eiddo. O ganlyniad mae pobl leol (pobl ifanc yn arbennig) yn ei chael hi’n anodd os nad yn amhosibl i brynu eiddo gan eu bod yn aml yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai. Mae hyn yn amlwg yn cael effaith niweidiol ar ddemograffi’r ardal, cydlyniad cymdeithasol a’r iaith Gymraeg.

Er bod Cyngor Sir Gâr yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i ychwanegu cynnydd bychan o 1% ar y Dreth Trafodion Tir ar y sawl sy’n prynu ail gartref nid ydym yn credu bod hwn yn mynd yn ddigon pell i ateb yr argyfwng tai sy’n wynebu rhai o’n cymunedau gwledig. Rydym felly’n gofyn i Lywodraeth Cymru i:

·         Newid deddfau cynllunio i sicrhau bod rhaid cael caniatâd cynllunio cyn newid eiddo annedd cynradd i ail-gartref / llety gwyliau;

·         Caniatáu i awdurdodau lleol, mewn ymgynghoriad â’r gymuned leol, i osod trothwy ar y nifer o ail gartrefi ym mhob ward, a defnyddio cytundebau Adran 106 i atal cartrefi newydd rhag cael eu defnyddio fel ail gartrefi mewn wardiau sydd â chanran annerbyniol o ail gartrefi;

·         Cyflwyno system o drwyddedu ar gyfer rheoli’r broses o droi eiddo preswyl yn uned fasnachol megis uned wyliau/t? gwyliau neu AirBnB;

·         Cau’r bwlch sy’n caniatáu i ail gartrefi i gael eu cofrestru fel busnesau er mwyn optio allan o dalu trethi domestig a Threthi Cyngor, a chymryd mantais o ollyngdod trethi busnes;

·         Cyflwyno deddfwriaeth i gynyddu ymhellach Treth Trafodion Tir (LTT) pan yn prynu ail gartrefi.

Unwaith y byddai’r newidiadau polisi hyn yn cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, byddai Cyngor Sir Gâr yna’n ystyried codi’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi gan o leiaf 200%”.