Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu dyfarniad yn erbyn caniatáu adolygiad barnwrol ar bolisi Cyfarwyddyd Erthygl 4 Cyngor Gwynedd, gan ddweud eu bod yn disgwyl i awdurdodau lleol eraill gyflwyno’r mesur eu hunain yn ei sgil.
Dywedodd Dr. Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith:
“Mae poblogaeth Gwynedd yn wynebu argyfwng tai sy’n bygwth tanseilio ei chymunedau a’r Gymraeg wrth i deuluoedd a phobl ifanc gael eu gorfodi i adael oherwydd anfforddiadwyedd tai i’w prynu neu rentu.
“Mae cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 a dechrau ymyrryd yn y farchnad dai agored yn rhan o’r datrysiad, felly rydym yn croesawu’r dyfarniad yma sy’n cadarnhau ei ddilysrwydd, ac yn ei sgil yn erfyn ar awdurdodau lleol eraill i gyflwyno mesurau tebyg.
“Ond dim ond un symptom o fethiant ehangach y farchnad dai agored yw ail dai. Yr unig ffordd o ddatrys yr argyfwng yn ei hanfod yw sefydlu’r hawl gyfreithiol i dai digonol yn lleol trwy Ddeddf Eiddo, grymuso ein cymunedau a sicrhau bod tai yn cael eu trin fel anghenion cymunedol ac nid asedau masnachol.”