Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad cynhadledd Plaid Cymru, a gynhaliwyd yn Llangollen dros y Sul, i ddileu pob Cynllun Datblygu Lleol yng Nghymru.
Mae pwyllgor gweithredu wedi cael ei sefydlu gan y mudiad ymgyrchu yng Ngwynedd a Môn oherwydd pryderon am effaith iaith cynlluniau'r siroedd i adeiladu wyth mil o dai. Dywedodd Ben Gregory ar ran y pwyllgor gweithredu:
“Wedi blwyddyn o bicedu, llythyru a phrotestio yn erbyn Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn, rydym fel Pwyllgor Gweithredu yn croesawu'r datblygiad pwysig yma. Yn ymarferol mae Plaid Cymru'n arwain dau awdurdod lleol yng Nghymru sef Gwynedd a Cheredigion. Felly, rydym yn disgwyl y bydd y ddau Gyngor yma yn cydnabod penderfyniad eu Cynhadledd Flynyddol ac yn gwneud popeth posib oddi fewn eu gallu i weinyddu'r penderfyniad yn unol â dyheadau aelodau'r Blaid.”
Ychwanegodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
“Fel mudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu, ac sydd wedi bod yn ceisio amlygu peryglon amlwg y Cynlluniau Datblygu Lleol i gyflwr y Gymraeg a chymunedau Cymru ers dwy flynedd a mwy, rydym yn croesawu penderfyniad Plaid Cymru, ac yn gweld bod cyfle gwirioneddol o'n blaenau nawr i gychwyn trafodaeth genedlaethol am y cynlluniau hyn.”
Geiriad y cynnig a basiwyd yng Nghynhadledd Plaid Cymru:
"Mae’r gynhadledd yn cydnabod y bygythiad i Gymru a amlygir yn y Cynlluniau Datblygu Lleol sydd mewn llawer o achosion yn tanseilio cymunedau lleol, iaith a diwylliant.
"Mae’r gynhadledd hefyd yn cydnabod y gwastraff amser ac arian wrth lunio’r cynlluniau hyn ar gyfer pob awdurdod a hithau’n debyg y llywodraeth leol yn cael ei ad-drefnu cyn diwedd oes y cynlluniau hyn.
"Mae’r gynhadledd yn cydnabod natur afresymegol y CDLl pan mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys datblygiad rhanbarthol yn gyffredinol.
"Mae’r gynhadledd yn gwrthod derbyn yr angen am ryddhau caeau glas ar gyfer datblygu pan fo llawer o dir llwyd ar gael yn ogystal â miloedd o dai gwag yng Nghymru.
"Mae’r gynhadledd yn galw ar ACau Plaid Cymru i bwyso am ddileu’r CDLl a rhoi yn eu lle fesurau brys i warchod caeau glas a chymunedau lleol rhag datblygiad di-angen."