Croesawu Ysgol newydd Hwlffordd - ond angen datblygu yn y De

Mae cyfarfod llawn Cyngor Sir Benfro wedi penderfynu ymgynghori ar argymhelliad i greu ysgol Gymraeg 3-16 newydd yn Hwlffordd, ac i greu ysgolion 3-16 yn Nhyddewi ac Abergwaun a chanoli addysg ôl-16 yn Hwlffordd. Dywedodd Bethan Williams, swyddog maes Dyfed:

“Rydyn ni'n falch iawn bod datblygu addysg Gymraeg yn ardal Hwlffordd gydag ysgol uwchradd Gymraeg newydd – mae hyn yn gam sylweddol i addysg Gymraeg yn y sir. Er hynny mae'r argymhelliad i ganoli addysg ôl-16 ar gampws Coleg Sir Benfro yn Hwlffordd yn golygu bydd llai yn debygol o astudio drwy'r Gymraeg ar ôl cyrraedd 16 oed. Faint o ddisgyblion ardal Hwlffordd ac Aberdaugleddau sy'n debygol o deithio'r holl ffordd i Grymych i fynd mlaen â'u haddysg – heb sôn am ardal Tyddewi ac Abergwaun?
“Rydyn ni'n llawenhau gyda chymuned Tyddewi, yn dilyn derbyn gwelliant i gadw yr ysgol yno - er na fydd darpariaeth ôl-16 yno, ac yn falch na wnaeth cynghorwyr y sir dderbyn yn ddi-gwestiwn argymhellion y swyddogion i gau'r ysgol honno a rhoi'r camargraff taw 'uno' gyda Bro Gwaun fyddai'n digwydd."

Ychwanegodd:
“Yn anffodus, er bod twf mewn addysg gynradd Gymraeg yn Ne Orllewin y sir, byddai ysgol uwchradd newydd yn Hwlffordd yn gwneud fawr ddim gwahaniaeth i'r ardal honno. Gan fod penderfyniadau heddiw a'r misoedd i ddod yn mynd i benderfynu ar ddyfodol addysg am y blynyddoedd nesaf rydyn ni'n rhannu pryder rhieni y bydd Dinbych y Pysgod a'r cyffiinau ar ei hôl hi o hyd, ac yn dal i weld disgyblion yn gadael y Gymraeg wrth iet yr ysgol ar ddiwedd y dydd.
"Bydd penderfyniadau heddiw yn destun ymgynghori yn y misoedd i ddod, a gobeithio y bydd yn sail i ddatblygu addysg Gymraeg ar draws y sir, fel bod pob un disgybl yn y sir yn cael rhywfaint o'u haddysg yn Gymraeg er mwyn gallu mynd ymlaen i siarad a gweithio'n Gymraeg.”

 

Y stori yn  wasg:

Golwg 360: Croesawu Ysgol Gymraeg ond galw am Chweched Dosbarth 23/01 a Tro Pedol yn y penderfyniad i Gau Ysgol Dewi Sant  29/01

Tenby Observer:  Welsh-medium school welcomed, but action needed in South Pembrokeshire 05/02