Croeso cynnes i dreth ar ail dai

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu’r newyddion bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gadael i gynghorau sir godi treth uwch ar ail dai.

Mae’r polisi yn un o’r argymhellion ym Maniffesto Byw y mudiad iaith a gyhoeddwyd yn gynharach eleni mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad.

Dywedodd Cen Llwyd, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Rydym yn croesawu’r newyddion hyn. Fodd bynnag, hoffwn weld yr hawl i gynghorau codi’r dreth yn uwch eto. Mae’n glir iawn bod ail dai yn effeithio’n negyddol ar wahanol agweddau o fywyd cymunedol, megis cynaliadwyedd gwasanaethau lleol a’r Gymraeg. Mae’n iawn i roi’r hyblygrwydd i gynghorau sir adlewyrchu’r effaith honno yn eu polisïau treth - rydym yn disgwyl i gynghorau ymateb yn gadarnhaol i’r pŵer newydd hwn. Mae’n un o’r dros dri deg o argymhellion polisi yn ein Maniffesto Byw ac yn cael ei gefnogi gan fudiadau megis undeb y GMB hefyd. Yn wir, rydym wedi bod yn ymgyrchu ar hyn ers y saithdegau.”

“Mae mewnfudo ac allfudo yn rhai o'r ffactorau sydd yn effeithio fwyaf ar sefyllfa'r Gymraeg yn ein cymunedau. Yn ôl y Cyfrifiad diwethaf, fe welwyd cwymp sylweddol yn y nifer o gymunedau lle mae dros 70% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae gadael i gynghorau godi treth uwch ar ail dai yn rhan o’r pecyn o newidiadau i'r system gynllunio ac economaidd sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod pawb yn cael byw yn Gymraeg.”