Cwestiynu didueddrwydd darlledwyr dros ddatganoli darlledu

Mae ymgyrchwyr iaith wedi codi pryderon am ddidueddrwydd darlledwyr yn y ddadl dros ddatganoli pwerau darlledu i Gymru, yn sgil rhyddhau dogfennau newydd.

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, cyhoeddodd y Llywodraeth eu bod o blaid datganoli darlledu, a’u bod am ymchwilio i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru fel cam cyntaf o hynny er mwyn “mynd i’r afael â’n pryderon ynghylch elfennau bregus yn y cyfryngau ar hyn o bryd a’r ymosodiadau ar eu hannibyniaeth.”

Ym mis Awst eleni, daeth panel arbenigol a gomisiynwyd gan y Llywodraeth, ac a arweiniwyd gan y darlledwr Melanie Doel a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, i’r casgliad y dylid sefydlu’r Awdurdod Cyfathrebu i Gymru o fewn 12 mis.

Fodd bynnag, mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryderon am lythyr gan Gyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards, at Lywodraeth Cymru, wedi iddynt gael copi ohono mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth.

Yn y llythyr at Dawn Bowden, dywedodd Ms Richards mewn un achos ei bod “yn synnu ac ychydig yn siomedig” gyda rhai canfyddiadau sy’n beirniadu’r gorfforaeth. Dywedodd yn ogystal bod “nifer o sylwadau yn yr adroddiad a fyddai, yn ein barn ni, wedi elwa o fwy o gyd-destun a dadansoddiad”, yn benodol, y cwymp honedig mewn oriau a safon newyddion a materion cyfoes ac oriau o raglenni addysg, ffeithiol a chrefyddol.

Ymhellach, anfonwyd nodyn briffio gan S4C at Aelodau’r Senedd y llynedd yn rhestru cyfres o resymau technegol fyddai’n gwneud datganoli darlledu yn anodd, sydd, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, wedi’u llunio gyda’r nod o rwystro datganoli pwerau darlledu i Gymru.

Wrth ymateb i’r dogfennau sydd newydd eu rhyddhau, dywedodd Mirain Owen, Is-gadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol Cymdeithas yr Iaith: 

“Mae Llywodraeth Cymru bellach o blaid datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i’r Senedd. Mae’n hen bryd i’r darlledwyr dderbyn mai dyna yw barn mwyafrif pobl Cymru, ac yn lle ceisio atal hyn rhag digwydd, cydweithio er mwyn llunio fframwaith newydd sy’n bodloni anghenion pobl Cymru. 

“Mae’r llythyr gan bennaeth y BBC yng Nghymru yn mynd y tu hwnt i amddiffyn y corff yn unig, ac yn codi cwestiynau dilys am eu didueddrwydd. Siawns eu bod nhw’n gwybod bod unrhyw lythyr sy’n ceisio tanseilio’r adroddiad yn gyfystyr ag ymdrech i atal sefydlu’r Awdurdod Cyfathrebu i Gymru, awdurdod sydd ei angen fel cam cyntaf tuag at benderfynu ar faterion darlledu a chyfathrebu yng Nghymru ar gyfer Cymru."

Daw pryderon Cymdeithas yr Iaith yn dilyn adroddiad annisgwyl gan y BBC gan ffynhonnell ddienw yn honni nad oes bwriad gan y Llywodraeth i sefydlu Awdurdod Darlledu. Yn yr e-byst a oedd yn trafod y stori, a gafodd eu rhyddhau i’r Gymdeithas trwy’r cais rhyddid gwybodaeth, meddai swyddogion y BBC: “We are going to be running a little line that the recommendations from an expert panel earlier this summer that a Shadow Broadcasting Authority for Wales be set up, are not going to be taken forward.”

Mewn ymateb, dywedodd un o swyddogion y wasg Llywodraeth Cymru, “I’m not sure where that information has come from... there’s been no change to our position”, ac mai’r safbwynt hwnnw oedd “We are considering the findings of the expert panel’s report.”

Cyhoeddodd y BBC y stori ddiwrnod yn ddiweddarach beth bynnag.

Ychwanegodd Mirain Owen:

“Mae’r e-byst i ni eu derbyn trwy’r cais rhyddid gwybodaeth yn bwrw amheuaeth am ddilysrwydd stori’r BBC. Mae’n amlwg yn beryglus os oes gennych chi ddarlledwr fel y BBC sy’n lobïo’n breifat yn erbyn cam polisi, ac ar yr un pryd yn rhedeg stori ddi-sail ar ei llwyfannau sy’n cefnogi eu safbwynt lobïo.

“Mae’r holl wybodaeth yma’n codi cwestiynau ehangach am holl rym a dylanwad y BBC dros y cyfryngau yng Nghymru a sut maen nhw’n eu defnyddio.”