Cwricwlwm: Gorfodi addysg Saesneg yn tanseilio addysg Gymraeg

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu cynigion Llywodraeth Cymru i orfodi cylchoedd meithrin yng Nghymru i addysgu'r Saesneg.  

Yn ôl y papur gwyn ar y cwricwlwm newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae bwriad gosod "dyletswydd ar bob ysgol a Lleoliad Meithrin a Gyllidir i addysgu Saesneg, fel elfen orfodol o'r cwricwlwm newydd i Gymru ... Er nad yw Saesneg yn un o'r pynciau hynny sydd angen statws statudol yn ôl [adroddiad yr Athro Graham Donaldson] Dyfodol Llwyddiannus..."  

Dywedodd Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: 

"Rwy'n gobeithio bod y Llywodraeth yn mynd i gydnabod ei bod wedi gwneud camgymeriad. Hyd y gwyddon ni, does neb wedi argymell y dylai'r Saesneg fod yn orfodol yn y cwricwlwm newydd. Yn sicr, wnaeth yr Athro Donaldson ddim galw am hynny. Dydy pwy bynnag sydd wedi ysgrifennu hyn ddim yn deall sut mae plant yn caffael iaith leiafrifol fel y Gymraeg. Rhan fawr o lwyddiant y system addysg Gymraeg ar hyn o bryd yw'r ffaith ei bod yn trochi plant yn y Gymraeg ac ymatal rhag cyflwyno'r Saesneg tan fod plant yn 7 oed. Byddai gorfodi cylchoedd meithrin Cymraeg i addysgu'r Saesneg yn gam mawr yn ôl ac yn ergyd fawr i ymdrechion y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr.  

"Rydyn ni'n byw mewn gwlad ac mewn byd lle mae'r Saesneg yn hollbresennol, tra bod y gofodau lle mae'r Gymraeg yn norm yn brin iawn. Mi fyddai'r cynigion yma'n golygu llai o ofodau lle mae plant yn cael eu trochi yn y Gymraeg. Mi allai danseilio degawdau o dwf addysg Gymraeg.