Cyfle i Gymru ddysgu gan wledydd eraill mewn cynhadledd tai

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cynhadledd “Yr Hawl i Dai Digonol - Beth sy’n Bosib?” ar ddydd Iau, 16eg o Dachwedd yn y Pierhead ym Mae Caerdydd. Mae’r gynhadledd yn rhan o ymgyrch hirdymor y mudiad am Ddeddf Eiddo i Gymru a fyddai'n cadarnhau mewn cyfraith mai asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi i bobl yw prif ddiben tai, nid asedau ariannol ar gyfer buddsoddwyr.

Ymysg y siaradwyr mae arbenigwyr polisi tai mwyaf blaenllaw Ewrop, gan gynnwys Javier Buron Cuadrado a Sorcha Edwards, a bwriad y Gymdeithas yw rhoi cyfle i fynychwyr ddysgu mwy am yr hyn sydd wedi’i gyflawni yn Ewrop a beth sy’n bosibl yng Nghymru i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Bu Javier Buron Cuadrado yn Bennaeth Tai Cyngor Dinas Barcelona ac yn brif bensaer Cynllun Hawl i Dai y ddinas, sydd ers 2007 wedi trawsnewid marchnad dai y ddinas i weithio er budd pobl leol.

Sorcha Edwards yw Ysgrifennydd Cyffredinol Housing Europe, Ffederasiwn Tai Cyhoeddus, Cydweithredol a Chymdeithasol Ewrop. Mae’r ffederasiwn yn gyfrifol am 25 miliwn eiddo yn Ewrop, sy’n cyfateb i 11% o stoc tai’r cyfandir, ac mae ganddo weledigaeth ar gyfer cartrefi fforddiadwy o safon ym mhob cymuned.

Dywedodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Fe ddaw’r gynhadledd hon ar adeg dyngedfennol ar gyfer polisi tai yng Nghymru; mae’r angen i weithredu o ddifri ac ar frys yn glir ac mae’r Llywodraeth wrthi’n paratoi cynigion ar gyfer Papur Gwyn ar yr Hawl i Dai Digonol. Mae’n amlwg bellach bod y farchnad eiddo agored wedi methu: mae cartref, i’w brynu neu ei rentu, y tu hwnt i gyrraedd rhywun ar gyflog lleol ac mae rhestrau aros ar gyfer tai cymdeithasol yn cynyddu tra bod mwy a mwy o dai yn ein cymunedau yn dai gwyliau neu ail dai. Mae angen Deddf Eiddo fydd yn dylanwadu ar y farchnad a’i siapio i gyflawni ei dyletswydd cymdeithasol.

“Bydd y gynhadledd yn gyfle i lunwyr polisi cenedlaethol a lleol, sefydliadau tai, grwpiau diddordeb ac ymgyrchwyr weld beth sydd yn bosib ei gyflawni gydag ewyllys gwleidyddol, a beth sydd eisioes wedi’i gyflawni ar hyd a lled Ewrop. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyhoeddi Papur Gwyn ar yr Hawl i Dai Digonol a Rhentu Teg yn y tymor Seneddol hwn, a mawr obeithiwn y bydd cynnwys y gynhadledd yn dylanwadu ar y papur hwnnw.”

Noddir y gynhadledd gan Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor, ac Aelod Llafur o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd, John Griffiths.