Cyflwyno dros 1300 o addunedau 'Dw i eisiau byw yn Gymraeg' yn Sir Gaerfyrddin

Fe wnaeth y cyflwynydd teledu Heledd Cynwal, Meinir Jones (Ffermio, S4C), Andrew Teilo (Pobl y Cwm), Brian Walters (FUW), Mari, Manon a Gwennan Gravell ynghyg ag aelodau ifanc o Gymdeithas yr Iaith gynrychioli'r 1,500 a mwy o bobl ar draws Sir Gaerfyrddin a arwyddodd adduned 'Dwi eisiau byw yn Gymraeg' wrth eu cyflwyno i ddirprwyaeth o Gyngor Sir Gaerfyrddin.

Cyflwynwyd yr holl addunedau i Gadeirydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Sian Thomas a dirprwy Prif Weithredwr y Cyngor, Chris Burns. Lansiwyd yr adduned yn Rali'r Cyfrif - Safiad Sir Gar ym mis Ionawr. Trefnwyd y Rali mewn ymateb i'r cwymp brawychus yn y nifer o siaradwyr Cymraeg yn y Sir yn y cyfrifiad diwethaf. Yno gofynodd Cymdeithas yr Iaith i'r Cyngor Sir a Llywodraeth Cymru i gydnabod bod yna argyfwng.

Hyd yma, ni chafwyd datganiad gan y Cyngor Sir yn cydnabod bod yna argyfwng yn wynebu'r Gymraeg a'r cymunedau Cymraeg yn Sir Gar.

Dywedodd Sioned Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith

"Dylai Cyngor Sir Gaerfyrddin wrth dderbyn yr addunedau yma gydnabod yr argyfwng sy'n wynebu'n cymunedau. Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi iddyn nhw sefydlu gweithgor i edrych ar sefyllfa'r Gymraeg, ond maen angen iddynt sylweddoli fod yna argyfwng a bod angen mwy na siarad. Mewn argyfwng arall byddai camau brys yn cael eu rhoi mewn lle yn hytrach na chynllunio trafodaethau. Dylai'r cyngor weithredu ar frys i sicrhau bod modd i drigolion y Sir fyw yn Gymraeg a bod modd i gymunedau Cymraeg fyw hefyd".

Y stori yn y wasg:

South Wales Evening Post 18/03/13

Carmarthen Journal 20/03/13