Cyflwyno galwad “Deddf Eiddo – Dim Llai”

Cyflwynwyd galwad “Deddf Eiddo – Dim Llai” Cymdeithas yr Iaith i swyddogion Llywodraeth Cymru heddiw (29 Mai) wedi diwedd digwyddiad dathlu deng mlwyddiant y Siarter Iaith yn stondin y Llywodraeth.

Mae gwaith a llwyddiannau’r Siarter i’w canmol yn ôl y Gymdeithas, ond mae argyfwng tai a dinistr y farchnad agored yn bygwth “tanseilio” y gwaith da hynny, yn hytrach nag adeiladu arno.

Mae disgwyl i’r Llywodraeth gyflwyno papur gwyn ar yr hawl i dai digonol cyn diwedd tymor yr haf y Senedd ar 19 Gorffennaf 2024, ond pryder Cymdeithas yr Iaith yw na fydd yn cynnwys mesurau digon radical i leddfu’r argyfwng tai, ac na fydd yn arwain at ddeddfwriaeth yn y tymor Seneddol hwn.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn casglu enwau ar gyfer yr alwad ers rali ym Mlaenau Ffestiniog ar 4 Mai, lle galwodd Beth Winter AS, Mabon ap Gwynfor AoS, y Cynghorydd Craig ap Iago a llu o arweinwyr lleol am Ddeddf Eiddo o flaen cannoedd o gefnogwyr. Geiriad yr alwad 'Deddf Eiddo - Dim Llai' yw: 

“Galwn ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo i greu marchnad dai addas at anghenion Cymru, ac i rymuso'n cymunedau lleol. Ni all ein cymunedau aros rhagor - mae'n bryd gweithredu.”

Byddai Deddf Eiddo yn sicrhau mewn statud bod rhaid blaenoriaethu anghenion tai cymunedau lleol dros greu elw ar y farchnad agored.

Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith: 

"Ymfalchiwn yn llwyddiant y Siartrau Iaith i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ymhlith ieuenctid Cymru. Mae’n wych fod myfyrwyr ysgol yn dod i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol trwyddo.

“Ein nod wrth gyflwyno ein galwad "Deddf Eiddo - Dim Llai" i’r Llywodraeth heddiw yw pwysleisio y bydd llwyddiant mentrau fel y Siarter Iaith yn cael ei danseilio os bydd ein pobl ifanc yn gorfod ymadael â’u cymunedau o fethu cael cartrefi. Rhaid i’r Llywodraeth alluogi iddynt greu dyfodol yn eu cymunedau trwy gatrefi fforddiadwy. 

“Pryder Cymdeithas yr Iaith yw na bydd Papur Gwyn y Llywodraeth ar Dai a gyhoeddir yr haf hwn yn cynnig deddfwriaeth i reoli'r farchnad agored mewn tai fel y gall pobl ifanc fforddio cael cartrefi yn eu cymunedau. Mae dros fil wedi llofnodi ein galwad 'Deddf Eiddo - Dim Llai', sy’n dangos ei fod yn fater brys sydd angen ei ddatrys, ac rydym yn disgwyl i’r Llywodraeth weithredu."