Wrth feirniadu adroddiad newydd gan bwyllgor Seneddol am beidio dwyn y Llywodraeth i gyfrif am wendidau yn eu cynlluniau ar gyfer dyfodol addysg Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal rali ar risiau’r Senedd i gefnogi’r “80% o’n plant sy’n gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg yn hyderus”.
Cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ei adroddiad cyntaf ar Fil y Gymraeg ac Addysg heddiw (dydd Gwener, 13 Rhagfyr). Bwriad y Bil yw darparu sail statudol ar gyfer targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn siaradwyr Cymraeg hyderus.
Ond, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, nid yw’r Bil yn ddigon cryf i lwyddo yn ei nodau, ac nid yw adroddiad y Pwyllgor wedi mynd i’r afael â’r gwendidau hynny.
Yn y llythyr agored at y Pwyllgor, esbonia Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
“Ar hyn o bryd, mae 80% o’n plant a phobl ifanc yn gadael yr ysgol heb allu siarad Cymraeg yn hyderus, gan nad ydyn nhw wedi cael addysg cyfrwng Cymraeg. Ein pryder ni yw bydd y sefyllfa yma’n parhau hyd yn oed wedi i’r Bil gael ei basio gan ein Senedd, gan nad yw hanner digon cryf ar hyn o bryd o ran targedau, cynllunio a chyllido i esgor ar y newid radical sydd ei angen i roi’r Gymraeg i bob plentyn.”
Mae aelodau’r Pwyllgor wedi eu gwahodd i rali fawr ‘Sefyll gyda’r 80%: Addysg Gymraeg i Bawb’, fydd yn digwydd tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd ar 15 Chwefror 2025. Bydd Mabli Siriol o Gymdeithas yr Iaith, y bardd a’r llenor Hammad Rind ac Is-Lywydd y Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Catrin Edith, ymysg y siaradwyr.
Ychwanegodd Toni Schiavone:
“Gan nad yw’n gwleidyddion yn fodlon sefyll gyda’r 80% o blant a phobl ifanc sy’n cael eu hamddifadu o’r Gymraeg, byddwn ni’n cynnal rali tu allan i’r Senedd ar 15 Chwefror er mwyn dangos bod pobl Cymru yn cyd-sefyll gyda nhw.
Os yw’r Gymraeg wir yn perthyn i bawb, byddwch chi’n defnyddio’ch grym fel aelodau etholedig ein Senedd genedlaethol yn y misoedd i ddod i ddylanwadu er mwyn gwireddu dyheadau pobl Cymru a hawliau ein plant i siarad ein hiaith genedlaethol, a chyflwyno gwelliannau fydd yn newid y ddeddfwriaeth unwaith mewn cenhedlaeth yma yn sylweddol er mwyn iddi fod yn un wirioneddol drawsnewidiol.
Mewn arolwg barn diweddar gan YouGov, a gomisiynwyd gan Gymdeithas yr Iaith, roedd 59% o bobl a holwyd yn credu y dylai ysgolion anelu i addysgu pob disgybl i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus, gyda 29% yn anghytuno a 12% yn ateb ‘ddim yn gwybod’. O hepgor y rhai atebodd ‘ddim yn gwybod’, roedd y ganran o blaid yn codi i 67%.