Cymdeithas a Phobl Leol yn uno mewn Protest Tai

Heddiw (dydd Sadwrn 13eg o Ebrill) mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi codi baner yn datgan gwrthwynebiad i ddatblygiad tai ym Mhenybanc ger Rhydaman. Codwyd y faner, sydd yn datgan “Nid yw Sir Gâr ar Werth”, ar y safle mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi caniatáu codi 289 o dai arno.
 
Meddai Cynghorydd lleol yr ardal, Alun Davies:
“Byddai adeiladu 289 o dai yn chwalu'r gymuned leol ac yn cael effaith y sir gyfan. Mae llawer o wrthwynebiad yn lleol ond mae'n rhywbeth sy'n berthnasol i bawb yn y Sir. Rydyn ni'n trafod yn lleol beth gallwn ni wneud i roi stop ar y datblygiad ac yn falch o allu cydweithio gyda Chymdeithas yr Iaith ar hynny. Gobeithio y bydd y brotest rydyn ni yn lleol yn ei chyd-drefnu gyda Chymdeithas yr Iaith ar gyfer dydd Sadwrn nesaf (20fed o Ebrill) yn ddechreuad ar ymgyrch gref i ddangos i'r Cyngor Sir fod angen iddyn nhw wrando ar lais y bobl."
 
Ychwanegodd Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn yr ardal:
“Mae'r datblygiad tai yma yn pwysleisio'r negeseuon cymysg sydd yn dod gan y Cyngor Sir - ar y naill law mae sefydlu grŵp fel ymateb i'r ganlyniadau'r Cyfrifiad ond eto yn caniatáu datblygiad mor fawr, datblygiad a fydd yn cael effaith ar gymunedau a'r Gymraeg ar draws Sir Gaerfyrddin - a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad lleol. Rydyn ni'n pryderu mai dim ond un o nifer o ddatblygiadau fydd hwn, felly nid protest ar gyfer pobl Penybanc yn unig yw hon ond, protest ar gyfer Sir Gaerfyrddin gyfan i bwysleisio nad yw Sir Gar ar werth i ddatblygwyr tai.
Rwy'n awyddus iawn hefyd fod pobl yn cael cyfle i glywed y band ifanc lleol, Y Banditos, fydd yn rhoi blas o set y byddan nhw'n ei chwarae mewn gig yn hwyrach yng Nghaerfyrddin - maen nhw'n cynrychioli'r bobl ifanc mae penderfyniadau'r Cyngor yn effeithio arnynt."