Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth

Heddiw ar ddiwrnod cyhoeddi argymhellion yr Athro Robin Williams i'r Gweinidog Addysg ar fater polisi y Llywodraeth o sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg mae Cymdeithas yr Iaith yn croesawu rhai o argymhellion cryf yr adroddiad ac yn awr yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu Coleg aml-safle cadarn ac iddo gyllideb sylweddol.Meddai Rhys Llwyd, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Goleg Ffederal Cymraeg:"Rydym ni'n eithriadol o falch fod adroddiad Robin Williams yn argymell y bod angen sefydliad newydd annibynnol er mwyn datblygu addysg Gymraeg yn y sector addysg uwch. Y mae'r Gymdeithas ac Undebau Myfyrwyr wedi bod yn dadlau hyn ers blynyddoedd bellach ac yn falch fod Yr Athro Robin Williams wedi dod i weld mae dyna'r unig opsiwn credadwy i weld y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cynyddu'n sylweddol yn y sector. Mae'r Gymdeithas hefyd yn falch fod yr adroddiad yn nodi y bod angen cyllido'r datblygiadau yma'n ddigonol."

Fodd bynnag, mae Cymdeithas yr Iaith yn bryderus yngl?n a pherthynas y Coleg Ffederal arfaethedig gyda'r Prifysgolion presennol. Meddai Rhys Llwyd eto:"Er yn deall fod hi o bwysigrwydd canolog i'r sefydliad Addysgol newydd gyd-weithio ar bob lefel gyda'r Prifysgolion presennol cred y Gymdeithas y bod perygl i bobl gam-ddehongli geiriau'r adroddiad i feddwl mae corff is-raddol, rhyw fath o frawd iau i'r Prifysgolion presennol fydd y Coleg Ffederal. Y mae o bwysigrwydd canolog mae sefydliad o gyfwerth statws a gweddill y Prifysgolion fydd y Coleg newydd gyda Is-Ganghellor ei hun fydd o gyfwerth statws yn y sector ac Is-Gangellorion y sefydliadau eraill."Ond y mae'r brif her yn awr yn gorwedd yng nghol Llywodraeth Cymru. Meddai Rhys Llwyd eto:"Rhaid i'r Llywodraeth symud ar fyrder yn awr i gyllido ar gyfer gwireddu'r addewid o Goleg Ffederal Cymraeg. Rhaid gweithredu ar argymhelliad Robin Williams o sefydlu'r Coleg Ffederal cyn diwedd tymor bresennol y cynulliad yn lle llusgo traed. Ond y mae'r Gymdeithas yn galw ar y Llywodraeth i fynd rai camau ymhellach nag argymhellion yr adroddiad mewn perthynas ac awtonomi y sefydliad newydd o fewn y sector addysg."Cred y Gymdeithas fod sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg yn gam pwysig yn y dasg o greu cyfundrefn addysg Gymraeg gyflawn sydd, yn ei dro, yn ran allweddol o greu gweithlu cyfan-gwbl ddwyieithog yng Nghymru. Y mae galw cynyddol yng Nghymru am arbenigwyr yn eu meysydd sy'n medru trin eu maes yn Gymraeg yn ogystal a'r Saesneg o Nyrsio, i Gadwraeth Cefn Gwlad, i Therapyddion Lleferydd. Bydd Coleg Ffederal yn gyfraniad sylweddol tuag at economi Cymru ac tuag at greu Cymru ddwyieithog.