Cymdeithas yn croesawu galwadau'r gwrthbleidiau

SeneddMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu nifer o welliannau gan aelodau o wrthbleidiau'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnig gan y Llywodraeth Lafur sy'n datgan na ddylid cyflwyno dyletswyddau statudol newydd y tu hwnt i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae cynnig y Llywodraeth, a drafodir yn y Senedd y prynhawn yma, yn nodi yn benodol na ddylid ehangu swyddogaeth y Ddeddf Iaith dros y sector breifat, rhywbeth y mae'r Gymdeithas yn mynnu sydd yn holl bwysig os yw'r Cynulliad am ddiogelu hawliau pobl Cymry i'r iaith Gymraeg.Cynigir gwelliant i;r cynnig gan Jocelyn Davies AC Plaid Cymru dros Dwyrain De Cymru, Lisa Francis AC y Ceidwadwyr dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru a Kirsty Williams AC y Democratiaid Rhyddfrydol dros Brycheiniog a Sir Faesyfed yn galw am "adolygu’r angen am ddeddfwriaeth i gryfhau'r Gymraeg."Ymhellach, bydd Kirsty Williams yn dadlau dros welliant a fyddai’n rhoi lle allweddol i egwyddor hawliau ieithyddol yng ngynlluniau deddfwriaeth ieithyddol y Llywodraeth. Meddai Catrin Dafydd, cadeirydd grwp Deddf Iaith Newydd y Gymdeithas:"Rydym yn croesawu y gwelliannau a'r galwadau yma gan aelodau o'r gwrthbleidiau. O'u hystyried yn eu crynswth, mae'r gwelliannau i'r cynnig yn ymgorffori'r hyn y mae’r Gymdeithas wedi bod yn galw amdanynt ers blynyddoedd trwy alw am Deddf Iaith Newydd.""Maent hefyd yn arwydd clir, eto fyth, o'r consensws trawsbleidiol, cenedlaethol ynglyn a'r angen am ddeddfwriaeth newydd a chynhwysol ym maes y Gymraeg.""Deddfwriaeth a fyddai'n sefydlu statws iaith swyddogol i'r iaith yng Nghymru ac a fyddai'n sicrhau fod yr hawl gan bawb sy'n byw yng Nghymru i ddefnyddio’r iaith ymhob agwedd o'u bywydau. Deddfwriaeth a fydd hefyd yn creu swydd Comisiynydd da chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg, yn hytrach na Dyfarnydd di-rym, di-ddannedd.”“Daw’r ddadl yma bron fis yn union wedi i dros 300 o bobl ddod ynghyd yn Aberystwyth yng Ngwyl Fawr Deddf Iaith Newydd i ddatgan eu cefnogaeth am ddeddfwriaeth newydd. Mae'r cynigion yma gan aelodau'r gwrthbleidiau yn cynrychioli dyhead pobl Cymru benbaladr am yr hawl i fyw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn galw felly ar i Lywodraeth Lafur y Cynulliad dalu'r sylw haeddiannol i'r gwelliannau yma, ac i gefnogi galwadau pobl Cymru am greu Deddf Iaith Newydd.”