Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi cymuned San Clêr

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan eu cefnogaeth i drigolion pentref San Clêr yn eu hymgyrch i atal datblygiadau tai niferus yn y pentref. Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal heno am 7.30pm yn Ysgol Griffith Jones, San Clêr i drafod y camau nesaf i atal y datblygiadau.

Dywed Angharad Clwyd, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith:"Unwaith eto cawn enghreifftiau o gwmnïau datblygu mawr yn ceisio creu'r elw mwyaf posib ar draul ein cymunedau Cymraeg drwy nodi ffigyrau afresymol o uchel o dai, fel y gwelwyd ym Mhorthyrhyd, Pont-Tyweli a Waungilwen. Mae'r ffigwr, ar nifer o safleoedd o fewn pentref San Clêr, ddwywaith yn fwy na'r hyn a ddynodwyd o fewn Cynllun Datblygu Unedol y sir, gyda nifer o ddatblygiadau eisoes wedi cael eu cymeradwyo a'r gwaith wedi cychwyn. Gofynnwn yn nawr ar adran gynllunio'r Cyngor Sir i wrthod y ceisiadau sydd yn weddill gan fod hyd at 255 o dai eisoes wedi cael eu cymeradwyo ers cychwyn cyfnod y Cynllun Datblygu Unedol. Dim ond 270 o dai a ddynodwyd i'w hadeiladu drwy gydol cyfnod y Cynllun Datblygu yn y pentref - sydd i bara tan 2016.""Yn ol cyfrifiad 2001 mae 56.3% o drigolion San Cler yn siarad Cymraeg, 4.7% yn llai nac yn 1991. Fe fyddai cynyddu nifer o dai y pentref o tua 1200 i 1700 dros gyfnod mor fyr yn cael effaith andwyol ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal."