Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwestiynu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’r Gymraeg wedi iddi ddod i’r amlwg y bydd yn rhaid i famau yn y gogledd deithio i Loegr i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol.
Ar hyn o bryd mae’r unig uned arbenigol yng Nghymru ar gyfer iechyd meddwl amenedigol yn Abertawe, ac er y bu trafod sefydlu uned yng gogledd-ddwyrain Cymru a fyddai’n gwasanaethu rhannau o Loegr yn ogystal â Chymru y bwriad nawr yw adeiladu uned yn Swydd Caer.
Petai'r uned wedi ei lleoli yng Nghymru byddai modd sicrhau darpariaeth Gymraeg, heb effeithio ar y ddarpariaeth i unrhyw un sydd ddim yn siarad Cymraeg.
Yn ôl y Gymdeithas, byddai’n gywilydd pe na bai siaradwyr Cymraeg yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg, a hwythau eisoes mewn sefyllfa fregus.
Mae tystiolaeth glir bod cleifion yn fwy cyfforddus a hyderus i drafod salwch yn eu mamiaith ac ni ddylai’r mamau hyn gael eu hamddifadu o’r gallu i wneud hynny. Ond, yn fwy na hyn, mae defnyddio iaith y claf yn allweddol ar gyfer cynnal asesiadau cywir a thriniaethau effeithiol.
Codwyd y mater ar lawr y Senedd ac mae’r Gymdeithas wedi’u siomi gydag ymateb Lynne Neagle, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i’r drafodaeth.
Prin y gwnaeth y Gweinidog grybwyll pryderon ynglŷn â darpariaeth Gymraeg, dim ond cydnabod ei fod yn bwysig a nodi y bydd yn cael ei drafod gyda GIG Lloegr. Ond mae angen cynllunio darpariaeth yn fwriadus, o’r dechrau.
Rhaid gofyn a oedd y Gymraeg yn ystyriaeth o gwbl wrth gynllunio’r uned yma, ac yn bwysicach, sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cefnogaeth iechyd meddwl ar gael i famau a theuluoedd drwy gyfrwng y Gymraeg?
Dywedodd Gwerfyl Roberts, Cadeirydd Grŵp Iechyd a Lles Cymdeithas yr Iaith: “Merched ar eu mwyaf bregus sydd dan sylw fan hyn.
“Gallwn ond dychmygu eu sefyllfa hunllefus a fyddai’n gwaethygu’n arw o fod mewn awyrgylch lle mae popeth yn teimlo’n anghyfarwydd, yn enwedig yr iaith o’u cwmpas.
“Mewn sefyllfa o’r fath, mae’n rhaid i’r driniaeth fod yn ieithyddol briodol neu mae yna beryg na fydd yn effeithiol - na hyd yn oed yn addas ar gyfer yr unigolyn.
“Mae digon o dystiolaeth i ddangos os am gyrraedd rhywun mewn gwewyr meddwl fod rhaid ar gyfathrebu effeithiol sy’n briodol i’w anghenion iaith.
“Mae Llywodraeth Cymru yn cefnu ar egwyddorion craidd ei strategaeth Mwy na Geiriau wrth beidio lleoli’r uned hon yng Nghymru.”