Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder dros ganfyddiadau adroddiad blynyddol interim Owen Evans, Prif Arolygydd Estyn, gan ddweud eu bod yn “gadarnhad pellach” o fethiant ysgolion cyfrwng Saesneg i greu siaradwyr Cymraeg hyderus.
Ategodd y mudiad ei galwad ar Lywodraeth Cymru i sicrhau addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn erbyn 2050.
Dywedodd Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'n amlwg erbyn hyn bod y gyfundrefn addysg cyfrwng Saesneg yn methu sicrhau'r cyfle i’n pobl ifanc fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl, ac mae sylwadau'r Prif Arolygydd yn gadarnhad pellach o hyn. Yr ateb yw symud pob ysgol yn y wlad i ddysgu cyfran o'r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynyddu hynny dros amser fel bod pob plentyn yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn gadael yr ysgol yn hyderus yn eu Cymraeg. Mae cyfle i sicrhau bod hyn yn digwydd yn y Ddeddf Addysg Gymraeg sydd ar y gweill gan y Llywodraeth."