Cymraeg Ail Iaith i barhau? Torri addewid Carwyn Jones

Mae pryderon bod un o asiantaethau Llywodraeth Cymru yn cynllunio parhau gyda dysgu'r Gymraeg fel ail iaith, er gwaethaf addewid gan y Prif Weinidog y byddai'r pwnc yn cael ei disodli gydag un continwwm o ddysgu'r Gymraeg i bawb.

[Cliciwch yma i ymateb i holiadur Cymwysterau Cymru]

Mewn cyfarfod ac mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, dywedodd y Prif Weinidog ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr y llynedd y byddid yn 'ddisodli Cymraeg ail iaith' yn y pen draw, ynghyd â dileu'r ffin rhwng Cymraeg ail iaith a Chymraeg iaith gyntaf a chreu "continwwm", a'u bod "o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol."

Mewn llythyr heddiw at y Prif Weinidog, dywedodd Toni Schiavone, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith:

"Credwn fod hyn yn gwbl groes i'ch polisi fel Llywodraeth, a'r consensws glir yn y Cynulliad Cenedlaethol, sydd am ddileu'r cysyniad o ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith. Mae Cymwysterau Cymru wedi gwneud ymgais i guddio'r gwir. Beth yw diben cyflwyno cymhwyster a fydd yn amherthnasol ymhen blwyddyn?

"Nid oes modd dileu Cymraeg Ail Iaith ar yr un llaw ond, ar yr un pryd, rhedeg ymgynghoriad ar gyfer cymhwyster 'Cymraeg Ail Iaith'. Naill ai eich bod yn ei ddileu, neu dydych chi ddim – mae mor syml â hynny.

"Rydym yn falch iawn o'ch cefnogaeth i'r polisi hwn, ond pryderwn yn fawr bod swyddogion ac asiantaethau eraill yn mynd i'w rhwystro a'i wanhau. Pryderwn yn fawr y gwelwn, yn y pendraw, barhad o'r cysyniad Cymraeg Ail iaith, oni cheir arweiniad cryf gennych.

"Gofynnaf i chi felly ymyrryd er mwyn atal y corff rhag parhau â'r ymgynghoriad hwn a mynnu bod un continwwm dysgu'r Gymraeg yn cael ei gyflwyno i bob disgybl sy'n dileu'r cysyniad o ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith."

Ein llythyr llawn i'r Prif Weinidog