Cymraeg - Iaith Hamdden Sir Gâr

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu ar y cyd gyda Chlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn lansiad ymgyrch newydd i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweithgareddau hamdden yn Sir Gâr a Cheredigion.

Ar ran y Gymdeithas, esboniodd Bethan Williams "Yr ydym yn falch iawn o gael lansio'r ymgyrch hon dros Ŵyl Dewi yng Nghlwb Rygbi Castell Newydd Emlyn. Mae'n glwb cymunedol poblogaidd sy'n gosod esiampl wych o wneud y Gymraeg yn brif iaith hyfforddiant a chyhoeddusrwydd , heb gau neb allan. Yn wir mae nifer o sefydliadau chwaraeon yn Nyffryn Teifi'n gwneud defnydd da o'r Gymraeg - yn cynnwys Calon Tysul (canolfan hamdden Llandysul dan reolaeth gymunedol) a Chlybiau Pêl-droed, Criced a Hoci lleol. Galwn ar glybiau cymunedol a gwirfoddol trwy Sir Gâr a Cheredigion i ddilyn eu hesiampl trwy wneud y Gymraeg yn brif iaith eu gweithgareddau.

Ychwanegodd "Mae mudiadau fel yr Urdd, y Mentrau Iaith a'r Ffermwyr Ifainc yn trefnu llawer o weithgareddau hamdden Cymraeg, a nod ein hymgyrch yn awr yw gwneud y Gymraeg yn brif gyfrwng y gweithgareddau prif ffrwd hefyd, fel nad yw pobl ifanc yn cysylltu'r Gymraeg ag addysg yn unig, ond gyda'r pethau maen nhw'n eu mwynhau mewn bywyd. Cydnabyddwn y camau mawr a wnaed gan Gyngor Sir Caerfyrddin o ran Cymreigio eu canolfannau hamdden. Galwn ar y Cyngor Sir yn awr i symud o gynnig cyfleon gwersi nofio Cymraeg tuag at wneud y Gymraeg yn norm nad oes raid gofyn amdano, gan uwchraddio sgiliau staff i hwyluso hyn. Galwn hefyd ar y Cyngor i symud at gyflwyno gwersi chwaraeon mewn ysgolion Saesneg hefyd trwy gyfrwng y Gymraeg, fel bod dysgwyr yn dechrau defnyddio'r iaith yn gyfrwng. A galwn ar Goleg Sir Gâr a chyrff chwaraeon cenedlaethol i sicrhau fod cyrsiau hyfforddi yn Gymraeg.

Ar ran Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn dywedodd yr is-gadeirydd Gwion Dafydd "Mae'r clwb yn falch o wasanaethu ardal Gymraeg, ac rydyn ni'n defnyddio'r Gymraeg yn gwbl naturiol yn ein gweithgareddau. Mewn cyfnod ble mae nifer o ardaloedd yng Nghymru yn gwneud yr ymdrech ychwanegol i hybu'r Gymraeg, ni'n sylwi pa mor lwcus ydym ni fan hyn i allu cario ymlaen gyda'r hyn rydym yn ei wneud yn barod o ran defnyddio'r iaith yn naturiol gyda'n timoedd ieuenctid a hyd yn oed y timoedd hŷn. Gwelwn y pwysigrwydd o gynnal ein bywydau drwy ddefnyddio ein iaith yn hollol naturiol mewn gwahanol sefyllfaoedd, pu’n a’i yn y gwasanaethau iechyd, y siopau lleol, neu'r maes chwarae. Wrth gwrs, nid yw pob un o'n hyfforddwyr, rheolwyr, rhieni a chefnogwyr yn medru'r iaith ond mae'r croeso bob tro yn un cynnes lawr ar Ddôl Wiber

Mae datganiad polisi a gyhoeddwyd yn ystod y digwyddiad i'w weld yma