Cyngor i chwalu Ysgol ac adeiladu 6 ty ar y safle

Cadwn Ein Hysgolion.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhuddo'r Cyngor o fod yn fandaliaid sydd ddim ond am wneud elw wrth ymateb i'r newyddion ysgytwol fod Cyngor Sir Gar am chwalu Ysgol Mynyddcerrig. Dim ond mis sydd ers i'r ysgol gau a nawr mae'r Cyngor wedi gwneud cais am ganiatad cynllunio i ddatblygu 6 ty ar y safle.

Dywed Sioned Elin, Cadeirydd y Gymdeithas yn Sir Gar:"Dyma beth yw ffars fod y Cyngor yn rhoi caniatad cynllunio i'w hun gyda'r unig fwriad o godi gwerth y tir mewn ymgais i wneud elw mawr ar draul y gymuned leol. Y Cyngor yw'r gwir fandaliaid wrth ddinistrio adnodd gwerthfawr yn y gymuned ac unig ganlyniad codi'r holl dai fydd trawsnewid Mynyddcerrig i bentref cymudo. Dyma fydd hoelen fawr arall yn arch cymuned Gymraeg.""Rhybuddiodd y Gymdeithas o'r cychwyn mai bwriad y Cyngor Sir oed gwneud elw mor fuan a phosib allan o safleoedd ysgolion sy'n cau. Dengys hyn pa mor sinigaidd a chelwyddog yw'r honiadau gan y Cyngor y byddai'r gymuned yn cael y dewis cyntaf i ddefnyddio'r adeilad.""Byddwn yn galw ar Adran Materion Gwledig Llywodraeth y Cynulliad i gymryd drosodd adeiladau pwysig fel hyn er mwyn sicrhau eu bod ar gael at ddefnydd y gymuned."Beirniadu cyngor am gais cynllunio - BBC Cymru'r Byd, Dydd Llun, 15 Hydref 2007