Mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cadarnhau y bydd ei swyddogion yn cynnal ymchwiliad i gŵyn na wnaeth Cyngor Ynys Môn gadw at ofynion y Côd Trefniadaeth Ysgolion wrth benderfynu cau Ysgol Gymunedol Bodffordd. Mae Cymdeithas yr Iaith a Llywodraethwyr a Rhieni'r ysgol wedi cyflwyno cwynion ffurfiol i'r llywodraeth na wnaeth y Cyngor archwilio'r posibiliadau eraill yn gydwybodol nac ystyried effaith cau'r ysgol ar y gymuned.
Fis Tachwedd llynedd, cyflwynodd y llywodraeth fersiwn newydd o'r Côd a gynhwysodd ragdyb o blaid cadw ysgolion gwledig ar agor, ond cynhaliwyd y broses ymgynghorol am ysgolion Bodffordd a Thalwrn o dan fersiwn flaenorol (2013) y Côd. Fodd bynnag, mae'r ymgyrchwyr wedi pwyntio allan fod yr hen fersiwn o'r Côd hefyd yn cynnwys cymalau a oedd yn gorfodi Awdurdodau Lleol i ystyried yn fanwl pob opsiwn arall cyn cau ysgol, i fod yn agored i bosibiliadau newydd sy'n codi yn ystod y broses ymgynghorol, ac i ystyried effaith cau'r ysgol ar y gymuned leol ac ar yr iaith Gymraeg. Cyflwynodd y Gymdeithas dystiolaeth fanwl i'r llywodraeth yn dangos sut yr oedd y Cyngor wedi methu o ran y gwahanol gymalau hyn.
Ar ran Cymdeithas yr Iaith, esbonia Ffred Ffransis: "Os gellir cau ysgol boblogaidd a llawn fel Bodffordd lle mae 89% o'r plant o aelwydydd Cymraeg, go brin fod unrhyw ysgol wledig yn ddiogel a bydd strategaeth Kirsty Williams o blaid ysgolion gwledig yn ddi-ystyr. Mae Cyngor Ynys Môn wedi methu yn ei ddyletswyddau o dan y Côd mewn ymdrech i ddenu cyllid ar gyfer ysgolion newydd yn Llangefni. Mae mawr angen yr adeiladau newydd yn Llangefni, ond nid yw'n deg, nac yn gyfreithlon, fod cymunedau gwledig o gwmpas y dref i fod i ddioddef o ganlyniad.
Ychwanega: "Mae Canolfan Gymunedol Bodffordd yn rhan o adeiladau'r ysgol, ond credodd y Cyngor ei fod yn cyflawni ei ddyletswydd trwy benderfynu cynnal cyfarfod i drafod y dyfodol; nid yw hyn yn gyfystyr ag asesu effaith cau'r ysgol ar y gymuned. Credodd y Cyngor hefyd fod enwi geiriau fel "ffederasiwn" yn ddigon i dicio blwch ei fod wedi ystyried opsiynau amgen; ond ni wnaeth unrhyw astudiaeth ystyrlon o'r opsiynau hyn ac anwybyddodd opsiwn amgen a gynigwyd gan Gymdeithas yr Iaith."
Cyn i'r Gweinidog ystyried y cŵyn, dywedodd y byddai'n rhaid yn gyntaf ddefnyddio prosesau cwyno mewnol y Cyngor. Gwnaed hyn, ac ni fu unrhyw gyfaddefiad gan y Cyngor iddo gamymddwyn. Cynigiodd y Cyngor y dylid wedyn cwyno wrth yr Ombwdsman, ond gallai ymchwiliad ganddo fo gymryd naw mis, a byddai fait accompli gan y Cyngor erbyn hynny.
Yn ei hymateb diweddaraf i'r Gymdeithas, mae Kirsty Williams wedi cydsynio, a gofyn i'w swyddogion edrych i mewn i'r cŵyn. Dywed: "Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ystyried y materion yr ydych yn tynnu sylw atynt, ac a ydynt yn cynrychioli methiant i gydymffurfio â'r Cod. Fel rhan o'r ystyriaethau hynny, bydd fy swyddogion yn ysgrifennu at Gyngor Ynys Môn i roi gwybod bod cwyn wedi dod i law ac i ofyn am unrhyw wybodaeth bellach yr ydym yn ystyried ei bod yn angenrheidiol".
Mewn ymateb, dywed Ffred Ffransis: "Mae ymateb y Gweinidog yn achos calondid mawr, a chredwn ei bod yn cymryd y mater o ddifri er mwyn sicrhau na chaiff ei pholisi newydd dros ysgolion gwledig ei danseilio. Wrth edrych ar hyn o bryd ar ad-drefnu ysgolion ardal Amlwch, mae Cyngor Ynys Môn yn dal yn sôn am gau ysgolion. Mae'n amlwg eu bod eisoes yn anwybyddu fersiwn newydd gryfach y Côd sy'n dweud y dylent gychwyn o safbwynt trafod sut i gynnal ysgolion gwledig, nid sut i'w cau. Trwy weithredu yn achos Bodffordd, mae angen i'r Gweinidog anfon arwydd clir i Awdurdodau Lleol eu bod yn gorfod cymryd eu dyletswyddau at ysgolion gwledig Cymraeg o ddifri. Rydym wedi awgrymu y dylai'r Gweinidog gyfarwyddo Cyngor Ynys Môn y dylent gadw ysgolion Bodffordd a Thalwrn ar agor, deilwra ysgol newydd 2-safle at anghenion plant tref Llangefni a chreu "Ffederasiwn Cefni" yn cwmpasu'r ysgolion hyn a'r ysgol uwchradd mewn mentr flaengar newydd a fyddai'n rhesymoli ac optimeiddio'r defnydd o adnoddau"
Yn ystod y Steddfod Genedlaethol llynedd, cyflwynodd rhieni Bodffordd a Chymdeithas yr Iaith ddeiseb (gyda 5200 o enwau) i'r Senedd yn gofyn iddynt gymryd camau i sicrhau fod y Côd newydd â rhagdyb dros ysgolion gwledig yn cael ei weithredu. Mae Pwyllgor Deisebau'r Senedd wedi ystyried y ddeiseb ddwywaith ac wedi gofyn i Kirsty Williams esbonio pam nad oes proses apelio yn erbyn penderfyniadau i gau ysgolion.