
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dod o dan y lach am atal y cyhoedd rhag cael mynediad i gyfarfodydd o banel sy'n trafod newidiadau pellgyrhaeddol er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cryfhau yn yr ardal.
Wrth i Banel Ymgynghorol Y Gymraeg Cyngor Sir Gaerfyrddin gyfarfod bu Cymdeithas yr Iaith yn cynnal piced tu allan i Neuadd y Sir i ddangos ei anfodlonrwydd nad yw'r cyfarfodydd yn gyhoeddus. Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau'r Cyfrifiad dros ddwy flynedd yn ôl, fe basiodd cynghorwyr o bob plaid bolisi newydd er mwyn adfer yr iaith, sydd yn argymell symud at weithio'n fewnol yn Gymraeg a sicrhau bod pobl ysgol yn dysgu o leiaf yn rhannol drwy'r Gymraeg.
Er bod cofnodion cyfarfodydd y Panel Ymgynghorol bellach yn gyhoeddus does dim modd mynychu cyfarfodydd gan nad oes raid i'r math hyn o bwyllgor fod yn gyhoeddus. Cred Cymdeithas yr Iaith fod hyn yn rhwystr i waith y barcudiaid – a thrigolion y sir.
Mae dros 50 o 'farcudiaid' wedi dangos brwdfrydedd i gadw golwg ar gofnodion cyfarfodydd, ar gyhoeddiadau'r cyngor, dilyn datblygiadau'r strategaeth iaith, i fynd i gyfarfodydd y cyngor a nodi unrhyw faterion sy'n codi.
Dywedodd Amy Jones, Is-gadeirydd rhanbarth Caerfyrddin Cymdeithas yr Iaith
"Rydym yn cydnabod ei fod yn beth da fod cofnodion ar gael i bobl weld ond sut gall y barcudiaid sicrhau bod y Gymraeg yn cael blaenoriaeth a’r tegwch mae’r Cyngor eisoes wedi addo os nad yw'r cyfarfodydd hyn yn gyhoeddus?
“Sir Gaerfyrddin welodd y cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ôl Cyfrifiad 2011, ond mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi bod ar flaen y gad wrth greu y Gweithgor a chreu strategaeth iaith. Rydyn ni wedi cydweithio gyda'r cyngor dros y misoedd diwethaf ac wedi clywed fod pethau yn symud yn eu blaen ond er mwyn sicrhau fod hyn yn parhau rydyn ni'n awyddus fod y cyfarfodydd hyn yn agored i'r cyhoedd, a'n bod ni'n gallu 'cadw llygad barcud'. Rydyn ni wedi gofyn i aelodau'r Panel Ymgynghorol newid y drefn fel bod y cyfarfodydd yn gyhoeddus, ac wedi cael rhai ymatebion addawol, felly gobeithio gwelwn ni newid.”
Y stori yn y wasg:
South Wales Guardian 27/02/14 - Eagle-eye Protest