Cyngor Sir Gâr yn paratoi i ymosod ar 2 ysgol bentre Gymraeg arall

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBore heddiw (Llun 14/05/07) bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyhoeddi cynllun i ymosod ar ddwy ysgol bentrefol Gymraeg arall – sef Llanarthne a Llansawel.

Mae'r Swyddogion wedi gosod adroddiadau hirwyntog gerbron cyfarfod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor yn ceisio esgusodi'r ffaith fod eu holl amserlen o ran cau ysgolion (MEP) wedi llithro, ac yn gofyn am ganiatad i gychwyn 'ymgynghori' am ddyfodol ysgolion Llanarthne a Llansawel.Mae'r rhan fwyaf o ysgolion pentrefol Cymraeg y bwriadwyd yn wreiddiol ymgynghori am eu dyfodol yn ystod y flwyddyn nesaf wedi'u gollwng o'r rhestr am y tro. Mae'r Cyngor hefyd yn gorfod ailgychwyn yr holl broses o 'ymgynghori' am ddyfodol Ysgol Llansadwrn gan iddyn fethu a chwblhau’r broses llynedd. Mewn neges a rennir at ymgyrchwyr dros ysgolion pentrefol trwy'r sir, dywed Ffred Ffransis (llefarydd y Gymdeithas ar addysg):"Daw ochenaid o ryddhad gan ysgolion fel Bancffosfelen a llawer o rai eraill y bwriadwyd yn wreiddiol ymosod arnyn nhw eleni. Mae'r gwersi ar gyfer ymgyrchwyr dros ysgolion pentre'n gwbl glir.""Yn gyntaf fod yr holl wrthwynebiad yn cael gwir effaith ar y Cyngor ac yn eu hatal, am y tro o leiaf, rhag mynd ymlaen a'u cynlluniau, ac yn ail fod angen cadw'r pwysau ar y Cyngor a'u galw i gyfri am dwyll eu prosesau ymgynghori.""Twyll pellach yw eu honiad heddiw eu bod am ymgynghori'n onest am ddyfodol y ddwy ysgol ddiweddaraf Llanarthne a Llansawel gan fod:* swyddogion eisoes wedi dweud wrth lywodraethwyr Llanarthne y bydd ymgynghori am ddyfodol yr ysgol eleni – a hynny cyn hyd yn oed cynnal cyfarfod y Bwrdd Gweithredol i drafod y mater.* swyddogion wedi gweld eu cyfle i ymosod ar Lanarthne gan fod y prifathro’n ymadael am swydd newydd.* swyddogion wedi gweld eu cyfle i ymosod ar Ysgol Llansawel gan fod y llywodraethwyr yn brysur gydag Arolygiad ar hyn o bryd.* rhieni a llywodraethwyr yn ardal Llansawel, Caio a Rhydcymerau wedi mynegi diddordeb mewn creu ysgol ffedereiddiedig fel alternatif i gau ysgolion. Mae'r Cyngor felly’n ymgynghori eleni am ddyfodol un yn unig o'r cylch hwn o ysgolion er mwyn gwneud unrhyw gydweithio o'r fath yn anos."I ddiweddu, dywedodd Mr Ffransis:"Mae'r Cyngor wrthi eto gyda'i ystrywiau. Does gyda nhw ddim bwriad i ymgynghori'n onest am ddyfodol yr ysgolion hyn. Galwn felly ar bawb sy'n ymboeni am ddyfodol ein hysgolion pentre i ddod draw at uned Cyngor Sir Caerfyrddin ar faes Eisteddfod yr Urdd am 12pm Dydd Llun 28/05 pan fyddwn yn rhoi'r prif arweinwyr a swyddogion ar brawf am dwyll."ATEB CYHUDDIAD O 'CHWARAE GWLEIDYDDOL'Mae Cymdeithas yr Iaith wedi taro’n ol yn erbyn cyhuddiad arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin fod y Gymdeithas yn “chwarae gwleidyddiaeth ag addysg y plant” trwy wrthwynebu’r cynllun o gau ysgolion pentrefol Cymraeg. Gwnaeth y Cyng Meryl Gravell y cyhuddiad mewn cyfarfod o Fwrdd Gweithredol y Cyngor heddiw wrth fod y Cyngor yn penderfynu cychwyn proses o ymgynghori am ddyfodol 2 ysgol bentre arall yn sir. Roedd Ms Gravell yn amlwg yn cyfeirio at alwad y Gymdeithas am bleidlais yn erbyn Llafur yn etholiad y Cynulliad gan fod Llafur yn rhan o’r glymblaid lywodraethol ar y Cyngor Sir a bod Gweinidog Addysg Llafur yn gwrthod pob apel yn erbyn cau ysgolion pentre.Ymatebodd llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith, Ffred Ffransis, trwy ddweud:"Y rhai sy’n chwarae gwleidyddiaeth ag addysg y plant yw’r rhai sy’n ceisio cau eu hysgolion nhw er mwyn cyfleustra biwrocrataidd yn y Cyngor Sir. Chwarae gwleidyddol hefyd yw’r dwyll greulon o honni ymgynghori am ddyfodol ysgolion pan fo’r Cyngor Sir eisoes wedi penderfynu eu gwerthu nhw. Ond fe gaiff y Cyng Gravell gyfle teg I osod ei safbwynt hi yn y prawf ar Ddydd Llun 28ain o Fai ar faes Eisteddfod yr Urdd."'Gêm wleidyddol': Ffrae addysg - Newyddion BBC Arlein, 14/05/07School closure critics under fire - BBC Wales News, 14/05/07