Bydd Swyddogion Cynllunio Cyngor Sir Gar heddiw'n argymell bod y Pwyllgor Datblygu (sy'n cyfarfod am 10.30am Iau 30 Awst yn Neuadd y Sir) yn cymeradwyo cais cynllunio i godi 52 o dai newydd ym mhentref Porthyrhyd, a thrwy hynny'n dyblu maint y pentref.
Byddant yn gwneud hynny er gwaetha'r ffaith bod y Cyngor Cymuned leol (Llanddarog), ynghyd a dwsinau o bobl eraill, wedi gwrthwynebu'r cais, a bod cynulleidfa mewn Cyfarfod Cyhoeddus orlawn wedi lleisio'u barn yn unfrydol yn erbyn y cynllun.Mae'n amlwg nad er mwyn diwallu'r angen yn lleol yr adeiladir ar raddfa mor enfawr â hon, a bydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol sylweddol ar gymuned Gymraeg ei hiaith.Meddai Angharad Clwyd, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn y De Orllewin:"Mae'n ymddangos bod y Cyngor wedi deall y cysyniad o feddwl yn gydlynol erbyn hyn. Mae'n edrych yn debyg fod y Swyddogion Addysg a Swyddogion Cynllunio nawr yn cydweithio ar strategaeth bwrpasol i ddinistrio ein cymunedau pentrefol Cymraeg."Adroddiad Gwefan Cyngor Sir GârGwefan BBC Cymru'r Byd - Mwy o dai'n poeni pentrefwyr