Cred Cymdeithas yr Iaith mai mynd ati yn y dull hen ffasiwn o gau ysgolion, er mwyn arbed arian yn hytrach na ‘moderneiddio’ yw Agenda Cyngor Sir Gaerfyrddin, gan nad oes ganddynt unrhyw fodd i gyllido'u Cynllun.
Mae'r 'Strategaeth Moderneiddio'r Ddarpariaeth Addysg' honedig sydd wedi'i fabwysiadu gan y cyngor heb unrhyw drafodaeth na chefnogaeth gan y cyhoedd, yn nodi amserlen i drafod yn flynyddol ddyfodol yr ysgolion ac ar yr un pryd y buddsoddiad mewn adeiladau newydd. Y mae nifer o ysgolion wedi’u clustnodi am drafodaeth bob blwyddyn – Llansadwrn yw’r cyntaf ar y rhestr darged eleni, a cheir nifer o frwydrau mawr yn ardaloedd Llanymddyfri a’r Gwendraeth flwyddyn nesaf.Deallwn erbyn hyn fodd bynnag, y bydd y Bwrdd Gweithredol sydd yn cwrdd mewn 10 niwrnod (Dydd Llun 19eg) yn ail edrych ar yr amserlen, ac yn trafod cynnal ymgynghoriad ynghylch ysgolion nad oeddynt i gael eu trafod tan 2009 – 10. Byddant yn ystyried dyfodol ysgolion Llansawel, Caio, Brechfa, Talyllychau a Rhydcymerau, ble roedd cynlluniau am eu cau wedi’u cuddio y tu ol i’r honiad y byddant yn adeiladu ysgol ardal newydd.Soniodd Ffred Ffransis, llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, am bryderon y Gymdeithas:"Un dehongliad amlwg yw eu bod yn sylweddoli na allant fforddio’r holl ysgolion canolog, ac y byddant nawr yn mynd ati’n ddiegwyddor i werthu’r ysgolion, a dinistrio dyfodol y pentrefi a’r plant, er mwyn helpu i gyllido cynlluniau’r dyfodol. Rydym yn annog y Cyngor i beidio â rheibio’n cymunedau trwy ddwyn yr adnodd pwysicaf sydd ganddynt, sef yr ysgol leol, ac yn hytrach i gyd-weithio gyda’r bobl leol er mwyn sicrhau darpariaeth addysg ardderchog o fewn y cymunedau. O fewn yr ardal arbennig hon, gall ysgol ffederedig yn cynnwys nifer o safleoedd fod yn ateb gwell."YR ANGEN AM YMGYNGHORIADYchwanegodd Ffred Ffransis:"Does dim posib y gall ymgynghori am ddyfodol ysgolion unigol fod yn agored a theg gan eu bod yn dibynnu ar yr enillion o werthu’r ysgolion er mwyn cyllido rhan helaeth o’r cynlluniau moderneiddio bondigrybwyll.""Gan na all ymgynghori unigol fod yn rhydd nac yn deg, rydym felly angen trafodaeth ledled y sir ynghylch p’run ai ein bod o ddifrif eisiau dilyn y llwybr o adeiladu ysgolion canolog drud, gan ddinistrio ein cymunedau pentrefol a di-wreiddio ein plant."PWYSAU AR GYNGHORWYR ANNIBYNNOLYchwanegodd Ffred Ffransis:"Byddwn yn pwyso ar y cynghorwyr annibynnol yn ystod yr Hydref, gan alw arnynt i wneud safiad yn y frwydr dyngedfennol hon am ddyfodol yr ysgolion a’r cymunedau. Byddwn yn gofyn iddynt roi’r cymunedau yn gyntaf ac i gael dewrder i ddweud wrth swyddogion y dylsent ail ystyried eu strategaeth a sicrhau y ceir ymgynghoriad eang ar draws y sir."