Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cael ei hysbysu na bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn trafod eu strategaeth ddadleuol o gau 30 ysgol pentrefol Cymraeg, wedi’r cyfan, ddydd Mercher nesaf.
Er bod yr eitem wedi’i rhestru ar agenda cyfarfod y Cyngor llawn ar y 10fed Tachwedd, cafodd y mater ei ohirio tan y cyfarfod canlynol o’r Cyngor ar yr 8fed Rhagfyr. O ganlyniad, cynhelir protest fawr Cymdeithas yr Iaith yn erbyn y strategaeth am 9am Ddydd Mercher yr 8fed o Ragfyr tu fas i Neuadd y Sir.Sylwodd Ffred Ffransis (Llefarydd y Gymdeithas ar Addysg):“Mae nifer fawr o rieni pryderus, llywodraethwyr ac eraill wedi cysylltu â ni o ran cymryd rhan yn y brotest. Cytunodd yr Aelod Cynulliad rhanbarthol, Helen Mary Jones, i annerch y protestwyr gan chwalu honiad y Cyngor fod cefnogaeth pob plaid i’w strategaeth. Bydd y brotest hon yn digwydd yn awr am 9am ar ddydd Mercher yr 8fed o Ragfyr o flaen y cyfarfod tyngedfenol o’r Cyngor.”“Ni allwn ond dyfalu am y gwir reswm pam benderfynodd y Cyngor i ohirio. Buasem yn gobeithio fod Jane Davidson yn rhoi darlith bach iddyn nhw ar ymgynghori cyhoeddus, chwilio dulliau eraill heblaw am gau ysgolion a gwerthuso effaith cau ar gymunedau lleol. Eto i gyd mae’r Cyngor yn ddigon hy i drefnu lansiad cyhoeddus pellach o’u strategaeth amhoblogaidd Ddydd Llun nesaf – sef mis cyn y bydd yr aelodau etholedig yn trafod y mater am y tro cyntaf mewn cyfarfod o’r Cyngor.”Her“Unwaith eto mae’r Cyngor yn bwriadu trefnu y bydd nifer o rieni’n datgan i’r byd pa mor llesol oedd cau eu hysgol leol. Mae’r Gymdeithas wedi herio’r Cyngor i gynnig yr un platfform i rieni sydd wedi gweld dinistr y gymuned leol o ganlyniad i gau’r ysgol.”