Ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr y 3ydd, yn Rali Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle, Caerfyrddin daeth cyfres o weithredoedd uniongyrchol Cymdeithas yr Iaith yn erbyn y llywodraeth i ben.
Yn ystod y gyfres, sydd wedi cychwyn ers diwedd Medi cafodd 16 o aelodau’r gymdeithas eu harestio am beintio slogannau ar waliau Swyddfa’r Llywodraeth, Parc Cathays. Bu’r gweithredu yn mynd yn ei flaen er mwyn hoelio sylw Rhodri Morgan a’i lywodraeth at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd a’r angen am drafodaeth yn y maes.Meddai Catrin Dafydd, Arweinydd yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd:“Mae’r cyfnod o weithredu uniongyrchol yn erbyn llywodraeth y Cynulliad bellach ar ben gan wneud lle i drafodaeth wleidyddol ymhlith pleidiau a mudiadau. Mae cyfnod o lobïo a thrafodaeth wleidyddol Cymdeithas yr Iaith yn cychwyn yfory wrth i gynrychiolaeth o’r gymdeithas gyflwyno tystiolaeth ger bron pwyllgor y Cyngor Ewropeaidd ar ieithoedd lleiafrifol yng Nghaerdydd.” Yn dilyn y Rali ar ddydd Sadwrn cafwyd datganiad gan Adam Price, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr:“Nid oes sail i ddadl yn erbyn yr angen am Deddf Iaith Newydd cynhwysfawr. Cwestiwn o hawliau sifil yw sicrhau bod modd i bobl fwynhau bywyd cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yng Nghymru.Mae Iaith Pawb yn gosod targedau uchelgeisiol, ond does gan Llywodraeth Lafur y Cynulliad ddim strategaeth er mwyn gweithredu’r targedau hyn. Dim ond Deddf Iaith Newydd fyddai’n gallu sicrhau fod modd cyflawni’r targedau hyn. ”