Datganoli Ystâd y Goron yn Gyfle i Fuddsoddi yn y Gymraeg a Chymunedau

Mae'r Senedd yn cynnal dadl ar Ystad y Goron heddiw, rydyn ni'n cefnogi’r alwad i ddatganoli Ystad y Goron gan ei fod yn gyfle i fuddsoddi yn y Gymraeg a chymunedau.

Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cymdeithas yr Iaith:
"Mae'r Llywodraeth yn dweud mai diffyg arian yw'r rheswm dros dorri gwasanaethau a chyllidebau sefydliadau diwylliannol, nifer ohonynt mewn cymunedau Cymraeg, a chyrff fel Comisiynydd y Gymraeg, sydd i fod i sicrhau darpariaeth a hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg.

"Nid yn unig hynny, ond mae angen cyllid i roi cynlluniau fel gorchymyn Erthygl 4 ar waith i sicrhau cartrefi i bobl leol. Mae gan awdurdodau lleol rym i gyflwyno gorchymyn Erthygl 4 i fynnu caniatâd cynllunio i newid cartref parhaol yn ail dŷ, ond mae mwy nag un awdurdod lleol wedi dweud nad ydyn nhw wedi mynd ati i ddefnyddio'r grym am nad oes arian ar gyfer hynny.
Mae disgwyl hefyd i’r Llywodraeth ymateb i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ddiwedd Mai, ond does dim arian wedi ei neilltuo ar gyfer eu gweithredu yn y Gyllideb. Fyddai dim angen symiau anferth i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau.”

Mae Ystâd y Goron yn gyfrifol am ddatblygiadau ynni gwynt a llanw oddi ar arfordir Cymru, ac mae cynlluniau ar gyfer rhagor o ddatblygiadau.

Mae tir ac asedau Ystâd y Goron ar dir ac arfordir Cymru yn werth £853 miliwn, ac yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf gwnaeth elw net o £1.1 biliwn. Ar hyn o bryd, mae 25% o'r refeniw hwnnw yn mynd i'r teulu brenhinol a'r gweddill i Drysorlys San Steffan.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw hefyd am roi'r datblygiadau ynni hyn dan reolaeth gymunedol.

Ychwanegodd Jeff Smith:
“Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i bwyso am ddatganoli Ystâd y Goron er mwyn rhoi diwedd ar y gyfundrefn echdynnol sy’n bodoli ar hyn o bryd a chreu ffynhonnell newydd o gyllid."