Siân Gwenllian ar y brig – 'esiampl i eraill', medd y Gymdeithas
Mae angen i aelodau cabinet y Llywodraeth siarad mwy o Gymraeg yn y Cynulliad – dyna neges ymgyrchwyr, wedi iddynt gyhoeddi ystadegau heddiw sy'n dangos bod defnydd o'r iaith gan Aelodau Cynulliad yn 'isel'.
Mae Cymdeithas yr Iaith, a gynhaliodd y gwaith ymchwil, wedi dweud bod Siân Gwenllian AC yn 'esiampl i eraill' – a hithau wedi siarad Cymraeg 99% o'r amser yn ystod cyfarfodydd llawn y ddeddfwrfa.
Fodd bynnag, yn gyffredinol dim ond 12% o'r amser y siaradwyd Cymraeg yn ystod trafodaethau'r Siambr ers etholiadau'r Cynulliad yn 2016. Mae ymgyrchwyr wedi awgrymu bod diffyg defnydd o'r Gymraeg gan Weinidogion wedi cyfrannu at y ffigurau dan sylw. Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones, sy'n rhugl ei Gymraeg, wedi defnyddio'r iaith yn llai aml na'r cyfartaledd: dim ond 10% o'r amser; tra bod defnydd Dafydd Elis-Thomas o'r Gymraeg wedi disgyn o 95% yn 2015 i 73% yn y cyfnod ers mis Mai 2016.
Mewn ymateb i'r ystadegau, dywedodd Osian Rhys o Gymdeithas yr Iaith:
"Mae'n amlwg bod Sian Gwenllian yn esiampl i'w chyd-Aelodau yn y Cynulliad – ac mae'n galondid gweld hefyd bod sawl un sy'n dysgu yn gwneud defnydd o'u Cymraeg. Fodd bynnag, mae'n dal i fod yn destun pryder bod yr iaith yn cael ei siarad gyn lleied yn ein corff democrataidd cenedlaethol. Mae cyfrifoldeb arbennig ar ein gwleidyddion i ddangos arweiniad. Ar ddechrau'r flwyddyn newydd felly, rydyn ni'n gofyn i bob Aelod Cynulliad wneud adduned i siarad mwy o Gymraeg yn y Siambr."
"Un peth sy'n ymddangos fel patrwm yw'r diffyg defnydd gan Weinidogion y Llywodraeth fyddai'n gallu gwneud defnydd llawer mwy o'r Gymraeg. Mae'n debyg ei bod hi'n arfer gan Weinidogion i wneud y rhan fwyaf o'u hareithiau yn Saesneg ac ymateb i gwestiynau Saesneg yn Saesneg, a hynny er bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael bob amser. Mae angen newid yr arfer hwnnw, ac os nad yw'r gwasanaeth sifil yn darparu digon o gefnogaeth i baratoi areithiau ac atebion yn Gymraeg, mae angen arweiniad oddi uchod. Er enghraifft, mae’n ddadlennol bod Dafydd Elis-Thomas, yr Aelod Cynulliad oedd â'r defnydd uchaf yn 2015, yn siarad Cymraeg yn llai aml yn ystod ei gyfraniadau yn y Cynulliad nawr ei fod yn Weinidog. Mae hynny'n awgrymu problem systematig gyda'r ffordd mae'r Llywodraeth yn gweithredu.
Wrth sôn am bwysigrwydd arweiniad y Llywydd, ychwanegodd Osian Rhys:
"Mae'n amlwg hefyd bod Elin Jones, fel Llywydd newydd, yn cynnig arweiniad cryf i'r Aelodau o ran defnydd o'r Gymraeg yn y Siambr, a diolch iddi am ei gwaith. Fe hoffen ni annog y Llywydd hefyd i ystyried ffyrdd o annog Aelodau, ac yn enwedig Gweinidogion, i siarad Cymraeg yn amlach yn y Siambr, gan nad ydyn ni wedi gweld y cynnydd roedden ni wedi'i ddisgwyl ers 2015."
Cliciwch yma am yr ystadegau llawn
Enw Aelod Cynulliad / Siaradwr | Canran Cymraeg | Cymraeg (nifer o eiriau) | Cyfanswm y Geiriau |
Sian Gwenllian | 99.28 | 59796 | 60227 |
Y Llywydd | 84.41 | 59446 | 70422 |
Llyr Gruffydd | 73.45 | 63737 | 86780 |
Dafydd Elis-Thomas | 72.55 | 8231 | 11345 |
Dai Lloyd | 71.29 | 53278 | 74735 |
Rhun ap Iorwerth | 67.25 | 62510 | 92957 |
Elin Jones | 63.76 | 475 | 745 |
Simon Thomas | 47.42 | 82304 | 173550 |
Alun Davies | 30.35 | 29446 | 97036 |
Adam Price | 26.95 | 22292 | 82702 |
Paul Davies | 26.30 | 11630 | 44218 |
Eluned Morgan | 22.13 | 7322 | 33080 |
Y Prif Weinidog Etholedig | 21.97 | 236 | 1074 |
Steffan Lewis | 16.35 | 7394 | 45222 |
Bethan Jenkins | 15.22 | 13016 | 85507 |
Jeremy Miles | 12.48 | 5585 | 44738 |
Suzy Davies | 12.07 | 11048 | 91496 |
Carwyn Jones | 10.34 | 36013 | 348217 |
Mark Drakeford | 8.23 | 15496 | 188229 |
Ann Jones | 5.29 | 99 | 1872 |
Alun Cairns | 4.91 | 173 | 3525 |
Y Dirprwy Lywydd | 2.14 | 847 | 39536 |
Huw Irranca-Davies | 1.83 | 1449 | 79316 |
Neil McEvoy | 1.55 | 457 | 29527 |
Mike Hedges | 1.03 | 689 | 67006 |
Leanne Wood | 1.01 | 527 | 52318 |
David Rees | 0.90 | 446 | 49419 |
John Griffiths | 0.82 | 316 | 38335 |
Rhianon Passmore | 0.69 | 246 | 35883 |
Hefin David | 0.69 | 244 | 35550 |
Vikki Howells | 0.67 | 220 | 32875 |
Hannah Blythyn | 0.56 | 222 | 39977 |
Darren Millar | 0.56 | 574 | 102993 |
Caroline Jones | 0.56 | 375 | 66861 |
Dawn Bowden | 0.55 | 263 | 47875 |
Jane Hutt | 0.54 | 559 | 103764 |
Lee Waters | 0.52 | 229 | 44356 |
Neil Hamilton | 0.49 | 762 | 155105 |
Joyce Watson | 0.48 | 183 | 38112 |
Janet Finch-Saunders | 0.46 | 208 | 45450 |
Julie Morgan | 0.46 | 303 | 65603 |
Jayne Bryant | 0.45 | 80 | 17684 |
Nathan Gill | 0.45 | 31 | 6837 |
David J. Rowlands | 0.42 | 167 | 39975 |
Mark Isherwood | 0.41 | 492 | 120658 |
Lesley Griffiths | 0.33 | 373 | 112467 |
Kirsty Williams | 0.33 | 480 | 144794 |
Julie James | 0.31 | 215 | 70296 |
Gareth Bennett | 0.31 | 165 | 53226 |
Russell George | 0.29 | 197 | 68380 |
David Melding | 0.27 | 231 | 85819 |
Nick Ramsay | 0.25 | 208 | 82967 |
Jenny Rathbone | 0.25 | 176 | 70188 |
Ken Skates | 0.24 | 547 | 231345 |
Vaughan Gething | 0.23 | 594 | 255804 |
Angela Burns | 0.21 | 187 | 87748 |
Mohammad Asghar | 0.20 | 78 | 39398 |
Lynne Neagle | 0.20 | 65 | 32034 |
Andrew R.T. Davies | 0.20 | 222 | 112820 |
Mark Reckless | 0.19 | 100 | 52105 |
Mick Antoniw | 0.17 | 78 | 46505 |
Michelle Brown | 0.16 | 56 | 36102 |
Rebecca Evans | 0.15 | 135 | 89325 |
Ei Mawrhydi Y Frenhines | 0.00 | 0 | 327 |
Cyfanswm | 12.08 | 563523 | 4664342 |