Diffyg hawliau yn y Mesur Iaith - protestwyr yn targedu banciau

bank-closed.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi dechrau ymgyrch yn erbyn banciau heddiw (Dydd Sadwrn Tachwedd 13) mewn ymdrech i sicrhau hawliau i'r Gymraeg yn y Mesur Iaith.Er mwyn tynnu sylw'r Llywodraeth at y ffaith na fydd mesur iaith arfaethedig y Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i wasanaethau Cymraeg yn y sector breifat mae aelodau Cymdeithas yr Iaith yn targedu gwahanol rannau o'r sector breifat, gan ddechrau'r wythnos yma gyda banciau.Bydd aelodau Cymdeithas yr Iaith yn targedu gwahanol rannau o'r sector breifat dros yr wythnosau nesaf, yn arwain at drafodaeth ar lawr y cynulliad ar y Mesur Iaith arfaethedig ar ddiwedd y mis (30ain o Dachwedd). Fe fydd y mudiad yn galw ar Aelodau Cynulliad i atal pleidlais heblaw fod datganiad clir o hawl i bobl yn cael ei gynnwys yn y mesur.Meddai Ceri Phillips, Cadeirydd Grwp Hawliau Iaith Cymdeithas yr Iaith:"Er fod y Gweinidog Treftadaeth yn trafod sut i achub S4C mae'n debyg ei fod wedi anghofio llanast y Mesur Iaith, ond dydyn ni ddim. Er nad oes gan y Cynulliad rym dros ddarlledu, gall Llywodraeth Cymru sicrhau dyfodol gwell i'r Iaith Gymraeg drwy sicrhau datganiad clir o statws swyddogol a hawl i dderbyn gwasanaethau Cymraeg." Gosododd aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin bosteri'n dweud "This Bank is Closed - for those who wish to receive a full Welsh language service, but thanks for your money!", ar nifer o fanciau yng Nghaerfyrddin. Mae gweithredu tebyg hefyd wedi digwydd yng Nghaerdydd a Phontypridd.Fe ddywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gar Cymdeithas yr Iaith:"Mae banciau yn cael ei ddefnyddio bob dydd gan Gymry Cymraeg ac mae'r 'mess' o Mesur Iaith wedi methu sicrhau eu bod yn atal eu rhagfarn yn erbyn y Gymraeg.""Oherwydd yr arian a roddwyd i'r banciau hyn y mae gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru - yn cynnwys S4C - yn gorfod dioddef. Mae'n warthus nad ydynt yn gwasanaethu'n pobl trwy gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn.""Mae'r Llywodraeth yn dal i fynnu bod hawliau yn rhan o'r mesur iaith ond does dim mewn gwirionedd. Mae'n hollol amlwg wrth edrych ar unrhyw adran y bydd y Gymdeithas yn ei dargedu dros yr wythnosau nesaf nad yw ac na fydd gan bobl Cymru hawl i'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.""Dim ond defnydd tocenistaidd o'r Gymraeg sydd gan y banciau yn eu gwasanaethau 'dwyieithog' gan mai Saesneg yw iaith eu masnach a'u gweinyddiaeth. Os na bydd gwelliannau sylweddol, ni bydd y Mesur Iaith sydd gerbron y Cynulliad yn newid hyn, ac felly fe benderfynon ni gael gwared a'r tocenistiaeth a chodi posteri uniaith Saesneg ar ran y banciau i wynebu eu cwsmeriaid y bore'ma."Gosodwyd y posteri ar ganghennau NatWest a Lloyds yn Stryd y Brenin (King St) Caerfyrddin - sef y ddau fanc sydd wedi cael eu hachub trwy arian cyhoeddus ac sydd yn dal yn peidio a chynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn i gwsmeriaid.Ychwanegodd Ceri Phillips:"Rydym yn gweld fod y llywodraeth wedi cefnogi'r frwydr i achub S4C, mae'n amser iddynt uno a deffro i sicrhau fod y Mesur Iaith Arfaethedig yn cynnwys hawliau i'r Gymraeg neu fel arall bydd yr Iaith Gymraeg yn y fantol."