Diffyg sylw i’r Gymraeg o fewn gwasanaethau gofal iechyd
2026-03-10
Cartref > Newyddion > Diffyg sylw i’r Gymraeg o fewn gwasanaethau gofal iechyd
Mae adroddiad gan Grŵp Iechyd a Lles Cymdeithas yr Iaith yn datgelu diffyg sylw i’r Gymraeg ac i egwyddorion ‘Mwy na Geiriau’ yng ngwaith strategol Perfformiad a Gwella GIG Cymru, gan godi pryderon difrifol am ansawdd a diogelwch gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg.
Lansiwyd strategaeth ‘Mwy na Geiriau’ gan Lywodraeth Cymru yn 2016 ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru, er mwyn hybu a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y sector. Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn gorff cenedlaethol sy’n gosod arweinyddiaeth i’r GIG wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau wrth drosi cyfeiriad polisi a’r safonau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mewn adroddiad gan Grŵp Iechyd a Lles y Gymdeithas, archwiliwyd 59 dogfen ar wefan Perfformiad a Gwella GIG Cymru sy’n ymwneud â chynlluniau ar gyfer darparu gwasanaethau o fewn y meysydd blaenoriaeth. Dengys yr adroddiad bod diffyg sylw i’r Gymraeg ac i egwyddorion ‘Mwy na Geiriau’ o fewn eu rhaglenni strategol.
Meddai Gwerfyl Roberts, Cadeirydd Grŵp Iechyd a Lles Cymdeithas yr Iaith:
“Mae sicrhau darpariaeth Gymraeg o fewn gwasanaethau gofal iechyd yn fater o ansawdd a diogelwch i siaradwyr Cymraeg. Ond mae’r cwynion niferus rydym wedi eu derbyn oddi wrth ein haelodau yn adlewyrchu diffyg cynnydd y strategaeth ‘Mwy na Geiriau’, gyda chleifion a defnyddwyr yn parhau i ddioddef yn sgil diffyg darpariaeth Gymraeg.
“Mae’r diffygion yr adroddiad yn dangos methiant PaG GIG Cymru i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, yn benodol wrth lunio polisi, ac i gyflawni eu rôl o drosi egwyddorion polisi Llywodraeth Cymru i weithredu’n ymarferol trwy fframwaith ‘Mwy na Geiriau’.
“Os na chaiff y Gymraeg sylw teilwng o fewn rhaglenni hyn, bydd effaith niweidiol ar barodrwydd staff y GIG i ddefnyddio eu Cymraeg – yn ogystal â chyrraedd y targed 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hyn yn golygu na fydd y gweithlu yn cyrraedd ei lawn botensial, a cheir adnoddau prin eu gwastraffu. Maes o law, bydd ansawdd a diogelwch y gwasanaethau hynny’n dioddef – a’r cleifion a’r defnyddwyr fydd yn talu’r pris.
“Bydd iechyd yn bwnc trafod mawr wrth arwain at etholiad mis Mai, ond prin yw’r sylw i’r Gymraeg ym maes iechyd fel arfer. Rydym yn galw ar ymgeiswyr am ymrwymiad i gryfhau a monitro gweithrediad cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a ‘Mwy na Geiriau’ - ac i’r rhai a etholir i weithredu ar yr ymrwymiad hwnnw. Yn ogystal, rydym yn galw ar PaG GIG Cymru i gyflwyno prosesau mewnol cadarn i hyfforddi staff ac ymgorffori’r Gymraeg o fewn eu rhaglenni. Yn olaf, gelwir ar Gomisiynydd y Gymraeg i archwilio prosesau mewnol PaG GIG Cymru a chynnig arweiniad er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a gwelliant pendant.”