‘Dim ffydd’ ym mhennaeth Cymwysterau Cymru

Mae mudiad iaith yn dweud nad oes gyda nhw ‘ffydd’ ym mhennaeth Cymwysterau Cymru yn dilyn cyfarfod gyda fe, gan nad yw wedi addo dileu Cymraeg ail iaith, er gwaethaf cyfres o addewidion polisi gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddisodli Cymraeg ail iaith gydag un continwwm o ddysgu Cymraeg ac un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl ers 2015. Mae Carwyn Jones, Kirsty Williams, Alun Davies a Mark Drakeford i gyd wedi addo gweithredu’r polisi yn dilyn argymhelliad mewn adroddiad Yr Athro Sioned Davies ar y mater yn 2013.

Fodd bynnag, yn dilyn cyfarfod fis diwethaf gyda Philip Blaker, pennaeth Cymwysterau Cymru, corff sy’n gyfrifol am greu a dilysu cymwysterau yng Nghymru, mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan nad oes gyda nhw ‘ffydd’ ynddo fe fel pennaeth y corff.

Mae’r corff yn cynnal ymgynghoriadau ar natur y cymwysterau fydd yn dod i rym yn dilyn newid cwricwlwm ysgolion yn 2022. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am beilota cymhwyster Cymraeg newydd cyn y dyddiad yna er mwyn hwyluso disodli Cymraeg ail iaith gydag un cymhwyster i bob disgybl.

Mewn llythyr at Philip Blaker, pennaeth y corff sy’n rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru, sy’n byw yn swydd Henffordd, meddai Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Mabli Siriol:

“Hoffem fynegi pryder a siom o glywed nad oes dealltwriaeth na gwaith cychwynnol ar lunio un cymhwyster newydd wedi cychwyn gan eich sefydliad mewn ymateb i ymrwymiadau clir gan y cyn-Weinidog Addysg Huw Lewis, y cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones, y Gweinidog Addysg presennol Kirsty Williams a’r Prif Weinidog presennol Mark Drakeford i greu un continwwm dysgu a chyfundrefn asesu Cymraeg. Ers pedair blynedd mae dileu Cymraeg Ail Iaith wedi bod yn bolisi Llywodraeth, ond ymddengys nad ydych fel corff wedi gwneud dim byd i symud yr agenda ymlaen a gwireddu’r amcan. Yn wir, drwy ddiwygio’r cymhwyster ail iaith presennol yn ystod y cyfnod hwn, rydych chi wedi rhwystro newid go iawn.

“Ond eto, dyma ni, yn 2019, yn gorfod trafod gyda chi y posibilrwydd, a ddim ond y posiblrwydd, y caiff y cysyniad ei ddileu yn 2025 ar y cynharaf. Mae hynny’n groes nid yn unig i argymhellion yr adroddiad ond hefyd i ddymuniad y Llywodraeth fel sydd wedi’i ddatgan droeon. Roedd yn hynod siomedig felly eich clywed yn datgan na allech roi sicrwydd i ni y bydd y Gymraeg ymysg y cymwysterau cyntaf i gael ei newid. Fan lleiaf, byddem yn disgwyl i chi ddangos parch at argymhellion yr Athro Davies, a ddywedodd fod hwn yn fater brys yn 2013, drwy ddatgan bod y Gymraeg yn mynd i gael ei blaenoriaethu fel cymhwyster i wneud ar y cyfle cynharaf posibl. O’ch sylwadau, mae’n rhaid dweud ei bod yn ymddangos nad ydych chi wedi darllen ei hadroddiad.

“... fe wnaethoch nifer o sylwadau yn seiliedig ar ystrydebau oedd gwir yn sarhau’r rhai ohonon ni oedd yn bresennol. Yn benodol, roedd yn destun pryder clywed eich bod chi’n awgrymu y byddai creu un cymhwyster yn digalonni disgyblion ac yn eu cymell i beidio â dysgu’r Gymraeg….Yn dilyn eich sylwadau yn y cyfarfod, rwy’n teimlo bod rhaid i ni ddatgan nad oes gennym ffydd ynddoch chi fel pennaeth Cymwysterau Cymru  y bydd y sefydliad o dan eich arweiniad yn gweithredu’n ddiffuant i dileu Cymraeg Ail Iaith a sefydlu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl yn ei le. Ymddengys y byddwch chi’n gweithredu ar eich blaenoriaethau eich hunan nad ydyn nhw’n adlewyrchu polisi’r Llywodraeth na dymuniad pobl Cymru i sicrhau bod rhuglder yn y Gymraeg yn rhywbeth i bawb.”