Dim ond prentisiaethau cyfrwng Saesneg a gynhaliwyd gan S4C yn ystod y pedair blynedd diwethaf, yn ôl ymchwil gan fudiad iaith.
Ers 2015, mae’r darlledwr Cymraeg wedi cyflogi tri phrentis ac roedden nhw i gyd yn ddi-Gymraeg yn ôl ymateb S4C i gais rhyddid gwybodaeth gan Gymdeithas yr Iaith. Mae’r ymateb yn rhan o ganlyniadau ymchwil ehangach gan y mudiad sydd hefyd yn dangos mai dim ond un cyngor sir sydd wedi cynnig prentisiaethau cyfrwng Cymraeg ers 2015. Dangosodd yr ymchwil hefyd nad oedd yr un Awdurdod Heddlu na Bwrdd Iechyd wedi cyflogi prentis sydd wedi ymgymryd â'u fframwaith prentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Er bod cyn lleied wedi astudio ar gyfer prentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, roedd nifer o gynghorau wedi cyflogi prentisiaid sy’n medru’r Gymraeg dros y pedair blynedd diwethaf. Fodd bynnag, dim ond prentisiaid di-Gymraeg mae S4C wedi’u cyflogi yn ystod yr un cyfnod.
Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith:
“Yn amlwg, mae yna gwestiynau mawr i’w gofyn am S4C a’i pholisi cyflogaeth. Prin iawn yw’r prentisiaid sydd wedi bod gyda nhw o gwbl - fe ddylen nhw fod yn manteisio ar y gyllideb enfawr sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer prentisiaid. Mae dros gan miliwn o bunnau yn cael eu gwario gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn yn y maes yma a dydy S4C ddim yn elwa o hynny. Rydyn ni’n gofyn am ymrwymiad gan benaethiaid S4C y byddan nhw’n cyflogi nifer sylweddol o brentisiaid mewn cynlluniau cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd nesaf.
“Ar y llaw arall, mae’r Urdd yn enghraifft o gorff sy’n hyfforddi nifer fawr o brentisiaid drwy gyfrwng y Gymraeg bob blwyddyn; does dim cymhariaeth rhyngddyn nhw ac S4C.”
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am roi deg miliwn o bunnau o gyllideb £111 miliwn prentisiaethau'r Llywodraeth yng ngofal y Coleg Cymraeg er mwyn sicrhau bod llawer mwy o brentisiaethau yn cael eu darparu drwy’r Gymraeg. Ychwanegodd Toni Schiavone:
"Mae cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle yn allweddol os yw’r iaith i ffynnu dros y blynyddoedd i ddod. Yn y byd sydd ohoni, mae sefyllfa lle mae cyrff cyhoeddus yn dal i dderbyn yn ddi-gwestiwn bod y byd gwaith a hyfforddiant bron â bod yn gyfan gwbl Saesneg yn annerbyniol. Ers blynyddoedd bellach, cyfran eithriadol o fach o brentisiaethau sy’n cael eu cynnal drwy'r Gymraeg. Mae’r penderfyniad clodwiw i ymestyn cyfrifoldebau'r Coleg Cymraeg i'r maes yma’n cynnig cyfle pwysig. Ond, er mwyn taclo'r perfformiad cwbl annerbyniol presennol, mae angen i’r Llywodraeth glustnodi £10 miliwn o bunnau allan o'r gyllideb prentisiaethau i fod o dan reolaeth y Coleg Cymraeg er mwyn newid y sefyllfa. Fyddai'r polisi yma ddim yn costio'r un geiniog ychwanegol i’r Llywodraeth - mater o drosglwyddo arian o'r gyllideb bresennol i'r Coleg Cymraeg fyddai e.”
Cafodd yr ymchwil ei drafod mewn digwyddiad ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Ystafell Siapan yng Nghanolfan y Mileniwm am 2pm ddydd Iau, 30ain Mai.
Ymatebodd y BBC i gais rhyddid gwybodaeth Cymdeithas yr Iaith yn ogystal, ond dydyn nhw ddim yn cadw data ynghylch nifer y prentisiaethau cyfrwng Cymraeg nac ym mha iaith mae’r prentisiaid yn astudio.