Dim ond traean o Aelodau o’r Senedd yn ymrwymo i’r Gymraeg
2026-07-30
Cartref > Newyddion > Dim ond traean o Aelodau o’r Senedd yn ymrwymo i’r Gymraeg
Dim ond ychydig dros draean o Aelodau’r Senedd sydd wedi gwneud ymrwymiadau i ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg yn eu gwaith, yn ôl arolwg newydd gan Gymdeithas yr Iaith.
Lluniwyd yr arolwg wedi iddi ddod i’r amlwg bod defnydd o’r Gymraeg ar lawr y Senedd ac mewn Pwyllgorau wedi lleihau yn ystod y Senedd ddiwethaf (rhwng 2021/22 a 2024/25).
Fe wnaeth y mudiad iaith wahodd pob un Aelod o’r Senedd i ddatgan eu gallu ieithyddol personol ar hyn o bryd, a’u hymrwymiadau i ddefnyddio a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg fel cynrychiolwyr etholedig.
O’r 96 Aelod, ymatebodd 70% (30) o aelodau Senedd Plaid Cymru, 11% (1) o Llafur Cymru, 6% (2) o Reform UK, a neb o’r Ceidwadwyr Cymreig, y Democratiaid Rhyddfrydol na’r Blaid Werdd, i’r arolwg terfynol.
Mae canlyniadau’r arolwg yn dangos bod 19 Aelod wedi ymrwymo i ddefnyddio’r Gymraeg ar lawr y Senedd ac mewn pwyllgorau o leiaf 50% o’r amser, ac 13 yn dweud y byddant yn dysgu’r Gymraeg er mwyn ei defnyddio. Ymatebodd 7 Aelod i ddweud y byddant yn cynnal gweinyddiaeth eu swyddfa yn llwyr drwy’r Gymraeg.
Mae un AS o Reform UK, Andrew Griffin, wedi ymateb i ddweud ei fod yn gwrthod ymrwymo i beidio trin y Gymraeg yn llai cyfartal na’r Saesneg wrth ymwneud gydag etholwyr.
Meddai Aled Thomas, ar ran Cymdeithas yr Iaith:
“Gyda Senedd newydd sbon, a mwy o Aelodau nag erioed o’r blaen, mae cyfle gwirioneddol i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y Senedd, sydd wedi bod yn isel iawn ar hyd y blynyddoedd. Mae’n destun pryder felly mai dim ond ychydig dros draean o Aelodau’r Senedd wedi ymrwymo i ddefnyddio’r Gymraeg fel cynrychiolwyr etholedig.
“Mae’n wirioneddol warthus bod aelod Reform UK wedi gwrthod ymrwymo i beidio trin y Gymraeg yn llai cyfartal na’r Saesneg wrth ymwneud gydag etholwyr. Dyma agwedd gwbl negyddol ac annerbyniol. Yn wir, mae’n ddigynsail yn hanes datganoli, hyd y gwn i, ac yn dangos bod angen newid yn y sefydliad.
“Rydyn ni am weld pob Aelod unigol, a'r Aelodau fel corff, yn dangos arweiniad i wireddu'r weledigaeth o wneud y Gymraeg yn briod iaith i'r Senedd. Mae angen i Aelodau’r Seithfed Senedd fachu ar y cyfle i feithrin arferion newydd o ran defnyddio'r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn nhrafodion y Senedd, wrth gyflogi staff ac wrth wasanaethu etholwyr.”
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryderon nad yw Comisiwn y Senedd ar lefel sefydliadol wedi cynllunio’n ystyrlon i wella sefyllfa’r Gymraeg yn y corff wrth i’r Senedd ehangu.
Gwrthododd Bwrdd Taliadau Seneddol y ddeddfwrfa genedlaethol alwadau i gydnabod sgiliau yn y Gymraeg fel rhai o’r nodweddion angenrheidiol ar gyfer staff cymorth yn y Senedd.
Yn ogystal, gwrthododd awdurdodau’r Senedd gynnig i’w gwneud yn ofynnol i Aelodau ryddhau staff o’u gwaith yn ystod amser gwaith i gael gwersi dwys i wella’u sgiliau ieithyddol.
Ychwanegodd Aled Thomas o Gymdeithas yr Iaith:
“Mae canlyniadau ein harolwg yn tanlinellu’r angen i ddod â Chomisiwn y Senedd, y Bwrdd Taliadau Seneddol a’r Aelodau eu hunain o dan ddyletswyddau safonau’r Gymraeg ar fyrder, fel bod fframwaith cyfreithiol cadarn yn ei le. Mynd yn erbyn y llif Saesneg a ffug ddwyieithrwydd honedig y sefydliad fu hanes y sawl oedd yn defnyddio’r Gymraeg yn seneddau’r gorffennol. Nawr yw’r amser i droi’r llanw o blaid y Gymraeg yng ngweinyddiaeth y Senedd.”
Mae’r mudiad iaith yn bwriadu i’r arolwg fod yn gofnod byw er mwyn dal Aelodau yn atebol yn ystod y tymor hwn.