Mae Cymdeithas yr Iaith wedi diolch i Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin am eu penderfyniad i gadw ysgolion Mynydd-y-Garreg a Blaenau ar agor, ac yn galw nawr ar y Gweinidog Addysg i roi cymorth ymarferol i sicrhau cynaladwyedd amser hir ysgolion gwledig.
Ar ran y Gymdeithas yn Sir Gaerfyrddin, dywed Ffred Ffransis: "Mae ein diolch yn fawr i'r Cynghorwyr am eu parodrwydd i wrando ar achos angerddol llywodraethwyr a chymunedau Blaenau a Mynydd-y-Garreg, a diolchwn hefyd i'r cymunedau hyn am eu safiad cadarn ac am roi gobaith newydd i ysgolion a chymunedau eraill trwy Gymru. Mae dyfodol y ddwy ysgol hyn yr un mor ddiogel yn awr ag unrhyw ysgol arall yn Sir Gâr. Cefnogwn hefyd adolygiad o 'Gynllun Moderneiddio Addysg Sir Gâr' gan fod y cynllun hwnnw wedi bwrw cysgod ansicrwydd dros dwsinau o ysgolion ers 16 mlynedd bellach. Dylid gwahodd pawb i fod yn rhan o broses creu cynllun newydd a fydd yn seiliedig ar gydweithrediad.
"Disgwyliwn arweiniad clir yn awr gan y Gweinidog Addysg fod ysgolion bach yn gallu derbyn grantiau am wariant cyfalaf i wella adeiladau gan fod Awdurdodau Lleol yn dal dan gamargraff fod yn rhaid cynnig cau ysgolion bach er mwyn denu grantiau mewn ysgolion trefol. Yn eu hadroddiad at Gabinet Cyngor Sir Gâr, dywed y swyddogion addysg am Ysgol Mynydd-y-Garreg 'it is unlikely that an application for funding to renovate the school would be successful as this would not be considered to be strategic enough, considering that a further two investment projects were taking place in the area.'
"Bu'r swyddogion felly dan yr argraff mai dim ond at y ddwy ysgol drefol y byddai'r llywodraeth yn dyrannu grantiau cyfalaf, ac felly mae'n rhaid i Jeremy Miles ddatgan yn gyhoeddus fod cymunedau gwledig hefyd yn haeddu cyfran teg o fuddsoddiad. Mae'n gwbl annerbyniol fod swyddogion y Gweinidog wedi anfon ateb camarweiniol at Gymdeithas yr Iaith mewn ymateb i'r cwestiwn hwn gan gyfeirio at grant lleihau dosbarthiadau ac at grant cyffredinol ysgolion bach. Erys y ffaith nad oes unrhyw grant cyfalaf at wella adeilad wedi mynd o Gronfa Ysgolion y 21ain Ganrif at unrhyw ysgol fach trwy Gymru. Rhaid i'r Gweinidog ddatgan yn glir y bydd hyn yn newid."
Ychwanegodd Ffred Ffransis: "Mae angen i Gyngor Sir Caerfyrddin hefyd chwarae ei ran i sicrhau cynaladwyedd amser hir i'r ddwy ysgol. Yn yr un cyfarfod Cabinet, penderfynwyd newid oedran derbyn disgyblion yn Ysgol Swiss valley o 4 oed i 3 oed gan dderbyn dadl y swyddogion 'The proposal aims to provide equal provision within the Llanelli area, aligning Ysgol Swiss Valley with neighbouring schools that are already 3-11 schools'. Mae union yr un ddadl yn berthnasol i Ysgol Mynydd-y-Garreg lle mae ysgol y pentre'n colli plant gan na all eu derbyn nes 4 oed tra bo'r ddwy ysgol yn nhre Cydweli'n derbyn plant yn 3 oed.
"Mae Cymdeithas yr Iaith yn arbennig o falch y bydd penderfyniad heddiw yn golygu y bydd mwyafrif llefydd addysg yn ardal Cydweli bellach mewn addysg gyfrwng Gymraeg, ac na chollir plant o Fynydd-y-Garreg i addysg Saesneg yn yr adeilad newydd yng Nghydweli."