Mae ymgyrchwyr iaith wedi dringo gorsaf drosglwyddo heddiw (Dydd Iau, Mehefin 23) ac wedi darlledu fideo trwy eu ffôn symudol i ddangos eu pryderon am ddyfodol darlledu yng Nghymru.Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, os yw'r cynlluniau presennol i dorri S4C a rhoi'r sianel dan y BBC yn parhau gallai fod ddim byd i'w ddarlledu yn Gymraeg. Fe fyddai grant y Llywodraeth i S4C yn cael ei dorri o naw deg pedwar y cant o dan gyd-gynllun rhwng y BBC a Llywodraeth Prydain.Mae aelodau o'r mudiad wedi mynd i fyny yr adeilad cyfnewid teledu yn Nebo ger Caernarfon ac wedi darlledu fideos trwy eu ffôn symudol o'r digwyddiad ac o wersyll amddiffyn darlledu Cymru sydd yn cael ei gynnal tu allan i stiwdios y BBC ym Mangor.Yn y fideo mae Bethan Williams, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn dweud:"Mae pethau'n ddu iawn ar ddarlledu yng Nghymru. Mae yna berygl fydd dim rhaglenni gan S4C na BBC Cymru o dan law y toriadau felly mae'n debygol iawn mai dyma'r dyfodol i ddarlledu yng Nghymru, sef teledu môr-leidr."Yn ateb cwestiynau ymgyrchwyr, nad ydy Cyfarwyddwr Cyffredinol, Mark Thompson na Chadeirydd newydd y BBC, Chris Patten wedi gwarantu unrhyw gyllid i S4C tu hwnt o 2015.Ychwanegodd Bethan Williams:"Rydym am weld gwasanaeth teledu cyflawn i Gymru felly mae'n rhaid i S4C barhau yn annibynnol a chael arian digonol. Ar hyn o bryd dydy'r un o'r ddau beth yma ddim yn sicr ar gyfer S4C, mae hynny yn ein pryderu."Yn dringo'r adeilad sy'n cyfnewid signal teledu a radio rhwng Llanddona a Llanon mae Robin Cragg, 25 mlwydd oed o Nebo a Bethan Williams, 24 mlwydd oed o Eglwyswrw, Sir Benfro.Neithiwr bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn codi sticeri yn herio ymrwymiad y Ceidwadwyr i ddarlledu yng Nghymru a pheintio sloganau yn gwrthwynebu'r toriadau ar swyddfa etholaeth Guto Bebb, AS Aberconwy, (nos Fercher 22ain o Fehefin).Meddai un o'r gweithredwyr:"Mae cyd-gynllun llywodraeth Prydain a'r BBC i dorri ar gyllid S4C a rhoi y sianel dan y BBC yn peryglu dyfodol y sianel. Mae Guto Bebb wedi cyfiawnhau y toriadau hyn yn gyhoeddus, mae'n cadw cefn ei Blaid ar draul ein cymunedau a'n gwasanaethau. Wrth i BBC Cymru wynebu toriadau hefyd nid yw'n edrych yn addawol i ddarlledu yma yng Nghymru"Ddoe bu ymgyrchwyr ac undebau yn cynnal lobi tu allan i gyfarfod rhwng Cadeirydd newydd y BBC Chris Patten ac Aelodau Cynulliad ym Mae Caerdydd dros ddyfodol darlledu yng Nghymru.Mae protestwyr Cymdeithas yr Iaith yn dal i wersylla tu allan i stiwdios y BBC ym Mangor.Nos Wener, bydd cyfarfod am ddyfodol darlledu yng Nghymru yn cael ei gynnal am 7pm yn yr Institiwt yng Nghaernarfon yng nghwmni Hywel Williams AS.Dydd Sadwrn cynhelir theatr stryd 'Helfa Cyw' yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer S4C am 12:30pm wrth y Cloc ym Mangor.