Dywedwch NA wrth y swyddogion - Ple Cymdeithas yr Iaith at Bwyllgor Gwaith newydd Cyngor Ynys Môn

Cyngor Ynys MônMae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar aelodau Pwyllgor Gwaith newydd Cyngor Ynys Mon i wrthsefyll pwysau gan y swyddogion o flaen cyfarfod allweddol fory (4/6) i drafod dyfodol ysgolion pentre. Yn ol neges y Gymdeithas at bob aelod, ymddengys fod swyddogion yn edrych ar ganlyniadau’r etholiad – a’r newid yn rheolaeth y Cyngor – fel anghyfleustra anffodus a’u bod yn benderfynol o frysio ymlaen i gael gwared ag ysgolion pentre.

Argymhelliad ffurfiol yr Uwch-Swyddog Strategol, Geraint Elis, i’r Pwyllgor yw y “dylent ystyried yr adroddiad”. Mewn effaith y mae’r adroddiad yn galw ar aelodau’r Pwyllgor Gwaith nid yn unig i beidio a thynnu’n ol y Rhybuddion i gau Ysgolion Aberffraw a Llanddeusant, ond hefyd y mae’r swyddogion yn gofyn am awdurdod i gynnal cyfarfodydd i drafod dyfodol 14 o ysgolion pentrefol Cymraeg eraill ar yr ynys – oll o fewn cyfnod o 10 niwrnod yng nghanol y mis hwn !!Dywed llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis “ Dyma enghraifft glir o fynd trwy gamau gwag ymgynghori ar frys gwyllt gan ddefnyddio technegau torri a gludo i greu adroddiadau ar gyfer pob ardal ac ysgol. Mae ymgynghori torfol o’r fath yn groes i bob cyfarwyddyd statudol sy’n mynnu fod ystyried yr holl opsiynau yng nghyd-destun pob ysgol unigol, nid fel modelau cyffredinol. Mae cynnig mynd trwy gamau gwag rhuthro trwy’r holl gyfarfodydd hyn o fewn 10 niwrnod hefyd yn sarhad ar ysgolion sy wedi gwasanaethu eu cymunedau ers canrif a mwy.Ychwanegodd “ Y mis nesaf bydd Adran Addysg Llywodraeth y Cynulliad yn cyhoeddi ( ar gyfer ymgynghori ) canllawiau newydd ynghylch sut y gall ysgolion pentrefol gydweithio, a’r wythnos hon y bydd Isbwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad yn cychwyn ymchwiliad i ysgolion gwledig. Cymerir penderfyniadau gan y Gweinidog ar y ddwy ddogfen hon tua diwedd y flwyddyn, a gallai’r rhain gynnig ffyrdd pendant ymlaen i ysgolion pentre. Anhygoel fyddai pwyso mlaen gyda Rhybuddion Cau Aberffraw a Llanddeusant a brys gwyllt i drafod yr holl ysgolion eraill heb wybod beth yw’r posibiliadau newydd.“Dywed y swyddogion mai “adlewyrchiad gwael ar y Cyngor” fyddai gorfod edrych o’r newydd ar ddyfodol ysgolion Aberffraw a Llanddeusant. Dyn nhw ddim yn deall mai pleidleiswyr, nid rheoleiddwyr, sy’n penderfynu polisiau. Onibai fod y Cyngor newydd yn gweithredu’n wahanol yn awr, byddai’r cyhoedd yn cwestiynu beth yw diben etholiadau.”